Apêl wedi ymosodiad yn Ninbych-y-Pysgod
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n awyddus i siarad gyda'r grŵp yma o ddynion a gafodd eu gweld ar gamerau cylch-cyfyng
Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i ymosodiad yn Ninbych-y-Pysgod ddydd Sadwrn.
Yn ôl swyddogion fe wnaeth grŵp o ddynion ddechrau ymladd â'i gilydd am 16:40 ar un o brif strydoedd y dref.
Cafodd dyn yn ei 30au ei daro yn ei wyneb wrth iddo geisio ymyrryd.
Mae lluniau o gamerâu cylch-cyfyng wedi cael eu rhyddhau o ddynion y byddai'r heddlu'n hoffi siarad â nhw mewn cysylltiad â'r digwyddiad.