Cyflwr sarcoma yn newid byd teulu 'mewn eiliad'

  • Cyhoeddwyd
Teulu Mia Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Mia Lloyd (canol) a'i rhieni Emma ac Eurig

Mae rhieni o Geredigion wedi annog eraill i fod yn wyliadwrus o symptomau Sarcoma ar ôl i'w merch 11 oed orfod colli ei choes chwith yn sgil y cyflwr.

Math prin o ganser yw sarcoma sydd yn effeithio ar yr esgyrn ynghyd â meinwe meddal y corff.

Yn ôl Sarcoma UK, mae yna 5,300 o achosion trwy Brydain.

Yng Nghymru, mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 285 o achosion wedi bod yn 2015, gyda phump o'r rheiny yn achosion o Osteosarcoma.

A hithau'n wythnos codi ymwybyddiaeth am sarcoma, dywedodd Emma Lloyd o Benparc ger Aberteifi ei bod hi'n bwysig i rieni fod yn "wyliadwrus am y clefyd".

Disgrifiad,

Fe ddechreuodd Mia gwyno am boen yn ei phen-glin ym mis Ebrill 2017

Newid byd dros nos

Cafodd Mia Lloyd, 11 oed, wybod y llynedd bod ganddi Ostesarcoma - tiwmor uwchben ei phen-glin yn ei choes chwith - ac roedd y canser hefyd wedi lledaenu i'r ysgyfaint.

Cafodd lawdriniaeth fawr yn Birmingham i dynnu ei choes ym mis Hydref y llynedd, cyn ailgychwyn ar bedwar mis o driniaeth cemotherapi dwys yng Nghaerdydd.

Yn ôl ei Mam, Emma Lloyd o Benparc ger Aberteifi, fe newidiodd y salwch fywyd y teulu dros nos.

"Fe wnaeth Mia ddechrau cwyno am boen yn ei phen-glin hi 'nôl ym mis Ebrill 2017," meddai.

"Roedd y boen yn mynd ac yn dod. Ar ôl tair wythnos, fe wnaeth Mia ddihuno un bore ac roedd hi'n hercian.

"Doedd hi ddim yn gallu rhoi pwyse ar ei choes chwith. Fe aeth hi at y doctor, ac o fewn diwrnodau fe gafon ni wybod bod rhywbeth mawr o'i le. Roedd e'n newid ar ein byd ni mewn eiliad."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd gweld sgil effeithiau'r cemotherapi ar Mia yn "dorcalonnus" yn ôl Ms Lloyd

Yn ôl Ms Lloyd, roedd gweld sgil effeithiau'r cemotherapi ar Mia yn "dorcalonnus".

Cafodd y teulu ddau opsiwn, gyda'r cyntaf yn golygu cadw rhan o'i choes, ond fyddai Mia yn methu gwneud ymarfer corff.

Roedd yr ail opsiwn yn golygu tynnu coes chwith Mia yn llwyr a rhoi coes prosthetig yn ei le, fyddai'n golygu ei bod hi'n medru ailafael mewn chwaraeon.

Fe ddewisodd Mia yr ail opsiwn, yn sgil ei hoffter o chwaraeon.

'Dyled enfawr'

Yn ôl Ms Lloyd mae gan y teulu ddyled "enfawr" i'r doctoriaid a'r nyrsys yn Ysbyty Arch Noa, Caerdydd.

Fe ddaeth triniaeth Mia i ben rhyw 20 wythnos yn ôl ac mae'r fam yn dweud ei bod hi'n bwysig i rieni fod yn wyliadwrus am y clefyd sy'n medru cael effaith ddifrifol ar blant a phobl ifanc.

"Dim hala ofn ni'n ceisio gwneud ond os oes poen sydd yn parhau, mae angen edrych mewn i'r peth. Mae angen bod yn wyliadwrus," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mia bellach yn cymryd rhan mewn chwaraeon eto

Mae Eurig, tad Mia, yn ategu hynny gan ddweud: "Os yw'r boen yn parhau mae angen mynd i weld meddyg a chael pelydr X."

Dywedodd Mia nad oedd yw hi'n cofio llawer am ei salwch gan ei bod hi "mewn shwd gymaint o boen".

Yn ôl Mia mae ailafael mewn chwaraeon wedi bod yn hollbwysig, ac mae hi'n diolch i Chwaraeon Anabledd Cymru am helpu i gael hi nôl mewn i chwaraeon.

Neges Mia i blant eraill sy'n cael triniaeth am y cyflwr yw: "Bwrwch mlaen. Bydd e'n bennu cyn bo hir."