Gwrthdrawiad rhwng trên stêm a char ar Reilffordd Eryri
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr wedi bod yn "lwcus" i ddianc heb anaf ar ôl i'w gerbyd gael ei daro gan drên stêm ger croesfan.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng y car a thrên Rheilffordd Eryri ger Beddgelert yng Ngwynedd ddydd Iau.
Roedd tua 100 o deithwyr ar y trên 62 tunnell, ond yn ôl llefarydd ar ran y rheilffordd ni chafodd unrhyw un - gan gynnwys y gyrrwr - eu hanafu.
Dywedodd Paul Lewin, Rheolwr Cyffredinol y Rheilffordd ei bod hi'n "ffodus fod y trên eisoes wrth y groesfan".
"Fe gafodd y car ei droelli ac ochr y cerbyd brofodd rhan fwyaf o'r niwed. Llwyddodd y gyrrwr lleol i ddod allan o'r car," meddai.
Yn ôl Mr Lewin roedd gwerth tua £5,000 i £6,000 o "niwed cosmetig" wedi cael ei wneud i'r trên, a bydd Rheilffordd Eryri nawr yn llunio adroddiad ar y digwyddiad.
Mae gwasanaethau'r Rheilffordd yn rhedeg fel yr arfer erbyn hyn.