Canolfan Gymraeg yn gwireddu breuddwyd i bobl Y Fenni

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Gymraeg Y Fenni
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ganolfan Gymraeg o fewn Canolfan y Degwm yng nghanol Y Fenni

Ddwy flynedd ers i'r Eisteddfod Genedlaethol gael ei chynnal yn Y Fenni, fe fydd canolfan Gymraeg yn agor yn swyddogol yn y dref ddydd Llun.

Mae'r cynllun, sydd wedi'i leoli yng Nghanolfan y Degwm ynghanol y dref, dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Yn ogystal â bod yn swyddfa i dîm iaith Gymraeg y bwrdd iechyd, mae mudiadau Cymraeg lleol hefyd yn cynnal gweithgareddau yno.

Yn ôl swyddog iaith Gymraeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Rhiannon Davies, mae'n gyfnod cyffrous iddyn nhw.

Dywedodd: "Roedd 'na alw mawr ers Steddfod 2016 i ni neud pethe'n wahanol, ac r'yn ni'n gwrando ar ein dilynwyr a dyma beth oedden nhw ishe, ein bod ni ar stepen drws fel eu bod nhw'n gallu dod i gwrdd â ni i drafod materion Cymraeg a phethe sy'n bwysig iddyn nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae bwriad i adeiladu ar weithgareddau'r ganolfan, medd Rhiannon Davies

Eisoes mae gweithgareddau Merched y Wawr, Yr Urdd a Chymreigyddion y Fenni yn cael eu cynnal yn y ganolfan, ac fe fydd gwersi Cymraeg yn dechrau yno ym mis Medi.

Fe ddaeth grŵp o bobl leol at ei gilydd i ffurfio Criw'r Efail i geisio datblygu gweithgareddau Cymraeg yn y dref, wedi ymweliad y brifwyl ddwy flynedd yn ôl.

"Mae gwaddol yn air sy'n cael ei ddefnyddio ar ôl y Steddfod," meddai cadeirydd Criw'r Efail, Mererid Lewis Davies.

"Yn bersonol 'des i nabod llawer iawn o bobl oherwydd yr Eisteddfod - nifer o bobl nad oeddwn i'n gwybod eu bod nhw'n siarad Cymraeg... sydd yn wych.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bwysig bod yr eisteddfodau cenedlaethol yn dal i deithio, ym marn Mererid Lewis Davies

"Felly yn sicr, oherwydd yr Eisteddfod mae hyn wedi digwydd, a dyna pam fod rhaid i'r steddfodau fod yn eisteddfodau teithiol oherwydd maen nhw'n gadael eu hôl, fel maen nhw wedi gwneud yn Y Fenni."

'Ffantastig'

Ymhlith y gweithgareddau yng Nghanolfan y Degwm, mae clwb Scrabble wythnosol, sy'n rhan o gynllun Ffrind i Mi - cynllun y bwrdd iechyd i helpu pobl sy'n teimlo'n unig, ac mae rhai o ffyddloniaid y clwb yn croesawu'r ganolfan yn fawr.

"Mae'n ffantastig, mae'n neis i weld pethe'n datblygu yn yr ardal yn bendant," meddai Gaynor Rowlands o Gilwern, ger Y Fenni.

Mae Norman Chamberlain yn teithio i'r clwb o ardal Cas-gwent,

"I'r Fenni mae'n wych, mae llawer o gymdeithasau yn gallu cwrdd yma, so mae'n syniad gwych," dywedodd.

"Neith y ganolfan yma lawer o wahaniaeth o ran gwybod bod un lle, lle mae popeth yn digwydd," meddai Angela Marshall o Gilwern.

"Chi'n gallu cwrdd â'ch ffrindiau mewn un lle... dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Canolfan y Degwm dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dywedodd Hillary Beynon o'r Fenni: "Mae'n freuddwyd i fi, dwi jyst yn byw rownd y gornel... d'on i ddim yn dychmygu pan symudon ni i'r Fenni bydde canolfan Gymraeg ei hiaith mor agos at y tŷ... mae'n ffantastig."

Yn ôl Rhiannon Davies, mae 'na obeithion mawr ar gyfer Canolfan y Degwm: "Licen i weld y bwrlwm sy' 'ma'n barod yn cynyddu a bod y ganolfan 'ma yn llawn dop...

"A bod ni'n cynnal gymaint o weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg a sy'n bosib, fel bod pawb yn gweld bod y Gymraeg yn fyw."