Heddlu'n ymchwilio i fuwch yng nghefn car ar yr M4
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi lansio ymchwiliad ar ôl i fuwch gael ei gweld yng nghefn car ar yr M4.
Mae lluniau wedi ymddangos ar wefannau cymdeithasol o'r anifail yng nghefn y Volkswagen Passat glas golau ddydd Gwener.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn ymwybodol o'r lluniau, sy'n dangos buwch fechan neu lo yn ffenestr gefn y car.
Mae un llun yn dangos y car pasio cyffordd 42 ar yr M4 yn mynd i gyfeiriad y dwyrain.
Dywedodd yr RSPCA eu bod hefyd yn bryderus am y lluniau.
"Mae hyn yn ffordd gwbl annerbyniol i symud anifail fferm, mawr," meddai llefarydd.
"Mae'n bryder o safbwynt lles anifeiliaid, ond hefyd yn risg i ddiogelwch y gyrrwr a defnyddwyr eraill o'r ffyrdd."
Mae pobl yn gallu cael eu cosbi gyda dirwyon o hyd at £300 a tri phwynt ar eu trwydded yrru am orlwytho cerbyd.