Bron i 100 yn protestio yn erbyn perchennog Trago Mills

  • Cyhoeddwyd
Protestwyr

Fe wnaeth bron i 100 o bobl gasglu y tu allan i siop Trago Mills ym Merthyr Tudful ddydd Sadwrn i brotestio yn erbyn sylwadau'r perchennog am yr iaith Gymraeg.

Daw'r brotest ar ôl i Bruce Robertson ddweud bod ganddo "amheuon" am addysg cyfrwng Cymraeg mewn llythyr at Gomisiynydd y Gymraeg.

Roedd y llythyr, oedd yn trafod darpariaeth yr iaith yn siop newydd Trago Mills, hefyd yn dweud mai "Saesneg yw dewis iaith pobl leol", ac yn cwestiynu'r defnydd o arwyddion dwyieithog.

Dywedodd protestwyr eu bod yno i ddangos i Mr Robertson bod "digon o bobl sy'n siarad Cymraeg ym Merthyr Tudful".

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod hyn yn enghraifft o pam fod angen ymestyn y Safonau Iaith i gwmnïau preifat.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Phyl Griffiths mai'r nod oedd "dangos ein bod yn un genedl, sydd â dwy iaith"

Dywedodd trefnydd y brotest, Phyl Griffiths: "Beth ni'n gobeithio cyflawni heddiw yw dangos bod hunaniaeth gan y Cymry, a bod y sylwadau sarhaus wedi ypsetio nifer fawr o bobl.

"Beth sy'n galonogol iawn am y digwyddiad yma heddiw yw ei fod wedi cipio dychymyg pobl, wedi tynnu pobl at ei gilydd er mwyn dangos ein bod yn un genedl, sydd â dwy iaith.

"Mae'r achos yma'n amlygu'n glir iawn bod angen deddfwriaeth lot yn gryfach er mwyn gorfodi i gwmnïau preifat fabwysiadu'r Gymraeg yn eu busnesau."

Doedd Trago Mills ddim am wneud sylw ar y protestiadau ddydd Sadwrn ond yn ymateb i'r feirniadaeth ddiweddar dywedodd Mr Robertson nad oedd yn amharchus tuag at Gymru, a'i fod wedi buddsoddi £68m yn economi Merthyr a chreu 380 o swyddi.