Rhybudd heddlu wedi fideo brawychus o blant mewn chwarel

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cafodd y fideo ei rannu gan Mark Humphreys

Mae'r heddlu ac arbenigwr mynydda wedi rhybuddio pobl am y peryglon o chwarae mewn hen chwareli.

Daw'r rhybudd ar ôl i fideo ymddangos ar wefannau cymdeithasol yn dangos bachgen yn plymio i lyn o lethr llechen uchel yn Llanberis.

Yn syth wedi i'r bachgen cyntaf neidio, fe ddaeth darn o'r graig i lawr tu ôl iddo.

Ni chafodd y bechgyn eu hanafu yn ystod y digwyddiad.

Dywedodd Elfyn Jones o Gyngor Mynydda Prydain fod hen chwareli yn "eithriadol o beryglus" gan bwysleisio pa mor lwcus oedd y bechgyn.

Fideo 'brawychus'

Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru dywedodd Mr Jones fod y fideo yn un "brawychus".

Dywedodd: "Yn amlwg yn y tywydd poeth mae pobl yn cael eu denu gan y llefydd yma, yn enwedig gan y dŵr.

"Dydw i ddim eisiau stopio hwyl pobl ond y gwirionedd yw bod hen chwareli yn eithriadol o beryglus."

Yn ôl Mr Jones - sydd hefyd yn gyn-aelod o dîm achub mynydd Llanberis - mae tirlithriadau ac achosion o greigiau'n disgyn yn gallu digwydd ar unrhyw adeg.

Dywedodd fod digwyddiadau o'r fath yn codi peryglon i'r tîm achub sy'n gorfod ymateb, ac mae ef yn y gorffennol wedi gweld pobl yn boddi mewn amgylchiadau tebyg.

Ymateb yr heddlu

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gofyn i rieni fod yn ymwybodol o'r peryglon, gan bwysleisio nad yw chwareli a llynnoedd yn llefydd diogel i nofio a phlymio.

Dywedodd Prif Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru, Neale Lewis-Jones nad yw digwyddiadau dydd Sul yn "enghraifft o blant yn cael hwyl", ond yn hytrach yn ddigwyddiad a "all fod yn angheuol".

Bydd yr heddlu yn goruchwylio'r mannau hyn dros fisoedd yr haf.