Cynllun £25m i wella'r A55 ger Abergwyngregyn

  • Cyhoeddwyd
AbergwyngregynFfynhonnell y llun, Mapiau OS
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r gwaith ar yr A55 ddechrau yng ngwanwyn 2019 a pharhau am 18 mis

Mae cynllun gwerth £25m i wella rhan o ffordd yr A55 wedi cael sêl bendith Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru, Ken Skates.

Bydd y gwaith rhwng cyfnewidfa Abergwyngregyn a fferm Tai'r Meibion yn cynnwys uwchraddio darn 2.2 cilomedr o'r ffordd er mwyn bodloni safonau cyfoes a darparu ffyrdd mynediad mwy diogel i'r A55.

Fe fydd gwelliannau hefyd i'r system ddraenio er mwyn i'r ffordd fedru ymdopi'n well â lifogydd, darparu troetffyrdd newydd i'w gwneud yn haws i gerddwyr gyrraedd y gwasanaeth bysiau lleol, a gosod pibellau newydd i fywyd gwyllt o dan yr A55.

Bydd llwybr cerdded a beicio newydd hefyd yn cael ei adeiladu i gyfeiriad y dwyrain.

Mae hyn yn ychwanegol i osod wyneb newydd ar yr A55 yn yr ardal, er mwyn lleihau'r sŵn sy'n dod o'r ffordd.

Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau yng ngwanwyn 2019, a pharhau am gyfnod o 18 mis.