Alun Cairns 'oedd awdur y neges at Andrew RT Davies'
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru'n deall bod neges gafodd ei anfon mewn camgymeriad at Andrew RT Davies, yn sôn am gynllwyn i'w hel o'i swydd, wedi cael ei anfon gan Alun Cairns.
Cadarnhaodd ffynonellau fod Ysgrifennydd Cymru wedi anfon y neges yng ngwanwyn 2017 - neges oedd fod ar gyfer aelodau blaenllaw'r Ceidwadwyr Cymreig yn San Steffan yn unig.
Fe ddatgelodd cyn-arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad pan ymddiswyddodd yn ddisymwth fis diwethaf ei fod wedi derbyn y neges destun.
Yn fuan ar ôl ildio'r awenau, dywedodd ei fod wedi cael ei gopïo mewn i neges destun mewn camgymeriad bedwar mis ar ddeg yn ôl, gan wrthod cadarnhau pwy anfonodd oedd y neges.
Ar y pryd dywedodd: "Roedd y neges yn sôn am un ai fy nghadw'n dawel neu gael gwared arna i'n syth, ac roedd hynny o ben arall yr M4."
'Blin' dros groesawu Reckless
Mae BBC Cymru'n deall bod y neges wedi cael ei anfon yn dilyn penderfyniad Mark Reckless i adael plaid UKIP ac ymuno â grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad ym mis Ebrill 2017.
Roedd rhai ASau Ceidwadol yn flin fod Mr Davies wedi croesawu Mr Reckless i'w plith, er nad yw e wedi ailymuno â'r blaid.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Mr Cairns: "Mae gan Alun Cairns berthynas waith da gyda Mr Davies, yn enwedig ar bynciau lleol dros nifer o flynyddoedd.
"Mae cyfathrebu yn ystod cyfnod etholiad ar bynciau o bwys yn digwydd mewn sawl ffordd, ac nid yw'n briodol eu hystyried ar wahân.
"Fe siaradodd Alun gydag Andrew yn aml, gan roi'r negeseuon penodol am Mark Reckless i'r naill ochr, er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw amwysedd ac er mwyn trafod yr ymgyrch yn gyffredinol.
"Gan fod hyn bron i flwyddyn a hanner yn ôl nid yw wedi cael ei drafod ers hynny, ac roedden ni'n meddwl fod y mater ar ben."
Mae dau aelod o grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad wedi cyhoeddi eu bod nhw'n bwriadu sefyll am yr arweinyddiaeth - yr arweinydd dros dro, Paul Davies, a llefarydd y blaid ar ddiwylliant, twristiaeth a'r iaith Gymraeg, Suzy Davies.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2018