Rhybudd tywydd melyn am gawodydd trwm a tharanau
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn o gawodydd trwm a tharanau ar gyfer dydd Gwener.
Bydd y rhybudd mewn grym rhwng 11:00 a 20:00, a hynny ar gyfer y rhan fwyaf o'r de, y dwyrain a'r canolbarth.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai llifogydd effeithio ar amodau gyrru ac achosi difrod i adeiladau.
Maen nhw wedi rhybuddio y gallai rhai siwrneiau a gwasanaethau trên wynebu oedi, gyda risg hefyd i gyflenwadau trydan oherwydd y taranau.
Gallai rhai ardaloedd weld rhwng 20-30mm o law o fewn awr, ond mae'n bosib y bydd ardaloedd eraill yn osgoi'r cawodydd yn gyfan gwbl.
Ond mae disgwyl i'r tymheredd barhau'n weddol gynnes ar y cyfan, gan godi i hyd at 23C yn ystod y dydd.