Cais treftadaeth i rannu stori 'ryfeddol' llechi Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
Ardal y llechiFfynhonnell y llun, Y Loteri Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Cyngor Gwynedd sy'n arwain y cais am statws Teftadaeth y Byd ar gyfer ardaloedd llechi'r sir

Mae ardaloedd llechi Gwynedd yn paratoi i gyflwyno cais ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.

Y gobaith ydy y bydd cais llwyddiannus yn dod â mwy o arian i'r economi leol ac yn creu swyddi ym maes twristiaeth.

Mae'r saith ardal sy'n rhan o'r cais yn cynnwys Dyffryn Ogwen, Dinorwig, Dyffryn Nantlle, Ffestiniog, Cwm Pennant, Abergynolwyn ac Aberllefenni.

Gobaith Cyngor Gwynedd, sy'n arwain y cais, yw y bydd statws treftadaeth yn help i gynyddu swyddi o fewn y diwydiant twristiaeth o 8,000 i 14,000 erbyn 2030.

Yn ôl eu ffigyrau byddai'r trosiant y diwydiant twristiaeth yn codi o dros £500m i £850m erbyn 2030.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Lechi Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y diwydiant yn ei anterth yn y 19eg ganrif

Yn ôl y cynghorydd Iwan Thomas, sy'n arwain ar ddatblygu economaidd ar gyngor Gwynedd, byddai statws treftadaeth yn rhoi cyfle i bentrefi ar draws Gwynedd.

"Mae rhywle fel Caernarfon, sydd efo dynodiad [treftadaeth] yn barod yn dod a nifer o ymwelwyr, ac mae nifer o bobl sy'n dod i ymweld â llefydd yn edrych am y statws yma.

"Rydym wedi gweld yr angen i weld buddsoddiad yn ein pentrefi ni ac mae hwn yn galluogi ein bod yn gallu gwneud hynny."

Dywedodd Dafydd Roberts, ceidwad Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis eu bod yn llwyr gefnogi'r fenter.

"Rydym yn rhan o'r Amgueddfa Genedlaethol ac mae gennym gasgliadau sy'n ein galluogi i adrodd stori ehangach y diwydiant llechi.

"'Di o ddim ynglŷn â'r peirannau yn unig - er bod peiriannau rhyfeddol i'w gael - ond mae gwybodaeth yn y casgliadau am ddaeareg, gwyddoniaeth a chelf a llen gwerin ac yn y blaen.

"Mae'n gyfle i ni, maes o law, i ddefnyddio ein holl wybodaeth i ddweud stori ryfeddol, stori ehangach y diwydiant llechi, ei bröydd a'i bobl."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Amgueddfa Lechi Cymru wedi ei lleoli yn Llanberis

Nerys Jones ydy rheolwraig Castell Penrhyn ac mae'n dweud y byddai statws treftadaeth hefyd yn gyfle i sôn wrth ymwelwyr am hanes Streic Fawr y Penrhyn, wnaeth bara rhwng 1900 a 1903.

"'De ni wedi bod yn gweithio gydag ysgolion, partneriaid busnes, unigolion a thrwy gelf a cherddoriaeth yn dechrau dod a'r straeon yn fyw.

"'De ni wedi gwneud ymdrech fawr i ddweud yr hanes - hanes y Streic Fawr - yn iawn.

"Stori pobl leol yw stori Streic Penrhyn, ond mae'n rhan o stori fawr iawn."

Bydd Cyngor Gwynedd yn cyflwyno eu cais am statws treftadaeth ym mis Medi, ond bydd yn rhaid aros dwy flynedd cyn penderfyniad terfynol UNESCO.