Heddlu arfog yn ymchwilio fflatiau yng Nghaerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
Heddlu arfog
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ymchwiliad i'r ymosodiadau yn cael ei arwain gan heddlu arfog

Mae heddlu arfog ar ddyletswydd yng Nghaerfyrddin wrth iddyn nhw archwilio bloc o fflatiau yng nghanol y dref yn dilyn ymosodiadau honedig.

Cafodd yr heddlu eu galw am 11:35 ddydd Llun ar ôl adroddiadau o ddigwyddiadau yn Heol Awst a Mangre Gwalia.

Daw'r ymchwiliad ar ôl adroddiadau o ddau ymosodiad ddydd Sul.

Mae sôn fod ymosodiad wedi bod ar chwech o bobl, gydag un yn yr ysbyty mewn cyflwr sefydlog.

Disgrifiad o’r llun,

Yr heddlu yn Heol Dŵr ddydd Llun

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod heddlu arfog yn bresennol oherwydd sôn fod dryll wedi ei ddefnyddio yn yr ymosodiadau.

Cafodd yr heddlu hefyd eu galw i eiddo yn Heol Dŵr yng nghanol Caerfyrddin.

Dywedodd y ditectif arolygydd Wayne Evans: "Fe allai pobl y dref sylwi fod yna fwy o'r heddlu na'r arfer ar y strydoedd wrth i ni ymchwilio, ond hoffwn eu sicrhau nad oes yna unrhyw fygythiad iddynt."