Datgelu cynlluniau Maes Awyr Caerdydd hyd at 2040
- Cyhoeddwyd

Bydd Maes Awyr Caerdydd yn datgelu ei chynlluniau i ddatblygu'r safle dros yr 20 mlynedd nesaf yn ddiweddarach.
Y bwriad, medd swyddogion, yw sicrhau "busnes maes awyr cynaliadwy sy'n creu budd economaidd sylweddol i Gymru".
Mae'r cynllun yn cynnwys y posibilrwydd o greu lein reilffordd newydd - cynllun sydd wedi wynebu peth gwrthwynebiad yn lleol yn y gorffennol.
Bwriad y maes awyr ger y Rhws ym Mro Morgannwg, sy'n eiddo'n rhannol i Lywodraeth Cymru, yw ceisio cynyddu nifer y teithwyr blynyddol o filiwn a hanner i dair miliwn, yn ogystal â thanlinellu'r awydd i'r maes awyr gael ei gynnwys o fewn cynllunio lleol a chenedlaethol.

Mae'r cynllun yn cynnwys:
Denu cwmnïau hedfan newydd er mwyn sicrhau llwybrau newydd a dewis ehangach i gwsmeriaid;
Datblygu cyfleoedd datblygu'r diwydiant awyrennau, cargo, addysg, technoleg ac arloesi;
Datblygu terfynfa newydd;
Adeiladu gwesty pedair seren newydd, gan gynnwys cyfleusterau cynhadledda a chyfarfodydd busnes;
Codi maes parcio aml-lawr newydd yn agos i'r derfynfa.

Dywedodd y prif weinidog Carwyn Jones fod y cynlluniau'n "uchelgeisiol" ond bod modd eu cyflawni.
Ychwanegodd Deb Barber, prif weithredwr Maes Awyr Caerdydd: "Mae'r uwchgynllun wedi ei greu er mwyn gosod cerrig milltir hyd at y flwyddyn 2040 a fydd yn ein galluogi ni i gwrdd â'n gweledigaeth i'r dyfodol a gwneud Maes Awyr Caerdydd yn rhan allweddol o strategaeth trafnidiaeth y DU."
Mae'r maes awyr yn gofyn am ymateb i'r cynlluniau erbyn 14 Medi.
Bydd y cynllun terfynol yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai 2018
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2017