Crocodeilod, nadroedd ac adar gwyllt: Ai dyma sir beryclaf Cymru?
- Cyhoeddwyd
Mae 'na ystadegau newydd sy'n dangos faint o anifeiliaid gwyllt peryglus sy'n eiddo i bobl yng Nghymru.
Mae'r ffigyrau, sy'n eithrio pob sŵ a gwarchodfa natur, yn dangos bod pum crocodeil a 10 neidr wenwynig yn Sir Fynwy.
Fe ofynnodd y Born Free Foundation i bob awdurdod lleol yng Nghymru am y ffigyrau o faint o anifeiliaid peryglus sydd â thrwydded gan berchenogion preifat.
Dywedodd yr elusen eu bod yn poeni y gall y 306 o anifeiliaid gael eu cadw mewn "amgylchedd anaddas".
Yn ôl y ffigyrau mae sebra yng Nghastell-nedd Port Talbot, gydag estrys ac wyth neidr wenwynig ym Mhowys.
Mae 200 o faeddod ym Mhen-y-bont, wyth neidr wenwynig yng Nghonwy, ac yn Sir Dinbych mae 'cotton top tamarin', 'spider monkey' a 35 ychen gwylltion (bison).
Sir Fynwy - y mwyaf peryg?
Ond Sir Fynwy sydd â'r amrywiaeth fwyaf, gyda chrocodeilod, wyth ych gwyllt, 16 estrys, 10 neidr wenwynig, pum madfall a phum pry a sgorpion gwenwynig.
Doedd dim anifail peryglus wedi eu trwyddedu mewn 14 awdurdod lleol yng Nghymru.
Roedd yr un ymchwiliad yn dangos bod bleiddiaid, llewod, llewpard, eirth a theigrod yn cael eu cadw yn Lloegr.
Er bod rhai gyda thrwyddedi yn cynnwys pobl sy'n defnyddio'r anifeiliaid ar gyfer rhaglenni teledu a ffilmiau, yn eu cadw ar y ffermydd a'u hachub nhw, mae'r rhan fwyaf yn cael eu cadw fel anifeiliaid anwes yn ôl yr elusen.
Ydy'r trwyddedau'n mynd yn ddigon pell?
Ar hyn o bryd gall rywun gadw anifeiliaid peryglus ym Mhrydain, cyn belled bod ganddyn nhw drwydded a'u bod yn gallu dangos bod yr anifail yn cael eu cadw yn saff a bod dim siawns iddyn nhw ddianc.
Yn gynharach eleni fe ddywedodd Leslie Griffiths, yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, y bydd hi'n edrych ar y broses o roi trwydded i rai anifeiliaid fel sioeau hebogyddiaeth (falconry), anifeiliaid egsotig sy'n ymweld ag ysgolion i addysgu plant, a cheirw dros gyfnod y Nadolig.
Dywedodd Dr Chris Draper o elusen Born Free: "Mae cadw anifeiliaid gwyllt fel anifeiliaid anwes yn bryder sydd ar dwf.
"Mae'r rhyngrwyd wedi ei wneud yn haws nag erioed i 'archebu' neu brynu anifail gwyllt heb fod digon o sylw yn cael ei roi ar o le ddaw'r anifail, a sut mae edrych ar ei ôl yn iawn."