Dysgwr y Flwyddyn 2018: Adnabod Yankier Perez
- Cyhoeddwyd
Yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd bydd enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2018 yn cael ei gyhoeddi. Unwaith eto eleni, pedwar sydd wedi dod i'r brig.
Mae Cymru Fyw wedi bod yn eu holi i ddod i'w hadnabod yn well.
Daeth Yankier Pijeira Perez i Gymru o Giwba yn 2011 i ymuno gyda'i wraig, Lowri, ac mae'r teulu'n byw yn Llanrug, Gwynedd.
Pan symudodd i Gymru, aeth ati i ddysgu'r iaith gan fod y Gymraeg yn rhan bwysig iawn o'i gymuned leol, ac erbyn hyn mae'n gweithio fel Technegydd Fferyllfa yn Ysbyty Gwynedd.
Beth yw dy hoff air Cymraeg?
Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch.
Oes yna gamgymeriad ti wastad yn gwneud?
Dwi'n siwr dwi'n gwneud tipyn golew, ella treiglo. Weithiau mae'n medru bod yn anodd i gofio treiglo, ond mae Lowri yn dda iawn i gywiro fi.
Pa berson wnaeth dy ysbrydoli i ddysgu Cymraeg?
Lowri, fy ngwraig, mae hi'n siarad Sbaeneg. Ro'n i'n gwybod fod yr iaith yn bwysig iawn iddi hi. Roedd dysgu yr iaith yn dipyn bach o barch iddi hi, fy nheulu a pobl Cymraeg.
Beth yw dy farn di am bobl sy'n cywiro dy Gymraeg?
Dwi ddim yn cymryd o fel rhywbeth personol, dwi'n meddwl mae o'n ffordd i ddysgu, yn arbennig iaith fel Cymraeg.
Weithiau mae'n medru bod yn anodd i ymarfer achos mae pobl sy'n siarad Cymraeg yn deall Saesneg.
Dwi'n dal i gofio llawer o frawddegau achos fod rhywun wedi cywiro fi, mae o'n rhan bwysig i fod yn rhugl. Mae pobl yn dal i gywiro fy Saesneg rhaid i mi ddweud.
Beth yw dy farn am y treigliadau?
Mae'n medru bod yn anodd ond mae pob iaith efo rhywbeth anodd i'w dysgu, dwi'n siwr.
Dydy o ddim mor anodd ag o'n i'n meddwl ar y cychwyn. Mae pawb yn deall beth 'dach chi'n drio ei ddweud hyd yn oed os ydi eich treiglo yn hollol anghywir.
Sut wnei di ddathlu os ti'n ennill?
Dwi'n meddwl mae yna gyfrifoldeb mawr efo'r wobr. Wrth gwrs 'swn i wrth fy modd a dwi'n siwr y basa ni'n dathlu gyda teulu a ffrindiau, ella parti bach fasa'n neis.
Hefyd, 'swn i'n hoffi gwneud rhywbeth yn Ysbyty Gwynedd, yn arbennig i ddweud diolch i Ceri sy' wedi enwebu fi.
Pa emoji wyt ti?
Mae'n gwestiwn rhyfedd, 'swn ni'n hoffi dweud yr un hapus. Ond ella mae pobl sy'n nabod fi'n gorfod ateb y cwestiwn.
Beth yw'r frawddeg mwyaf rhyfedd ti 'di gweld mewn llyfr dysgu Cymraeg?
Mae pob tiwtor Cymraeg yn gwella ar ôl tipyn bach o frandi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd13 Mai 2018