Geraint Thomas yng nghrys melyn y Tour de France
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth y seiclwr Geraint Thomas ennill 11fed cymal y Tour de France a sicrhau'r crys melyn fel arweinydd y ras ar yr un pryd.
Roedd y Cymro yn yr ail safle dros nos, ychydig dros ddau funud y tu ôl i Greg Van Avermaet o Wlad Belg.
Fe wnaeth y seiclwr Team Sky ymosod yn y milltiroedd olaf wrth ddringo i La Rosiere ddydd Mercher, a phasio'r Sbaenwr Mikel Nieve fetrau'n unig o ddiwedd y cymal.
Roedd arweinydd tîm Thomas, Chris Froome, yn drydydd yn y cymal, 20 eiliad y tu ôl i'r gŵr o Gaerdydd.
Froome sydd nawr yn ail yn y ras ar gyfanswm amser, munud a 25 eiliad y tu ôl i Thomas.

Llwyddodd Geraint Thomas i gyrraedd y copa yn La Rosiere 20 eiliad ar y blaen i'r ail safle
Dywedodd Thomas ar ôl ei fuddugoliaeth: "Mae'n anhygoel - doeddwn i ddim yn disgwyl y peth o gwbl. Roedden ni [Team Sky] yn isel o ran niferoedd, felly fy ngreddf oedd ymosod.
"Rwy'n teimlo dros Mikel Nieve am ei fod yn foi neis, ond roeddwn i'n gorfod mynd am y fuddugoliaeth.
"Mae hi wastad yn fraint bod mewn melyn."
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Y sefyllfa ar ôl 11 cymal
1. Geraint Thomas - 44 awr, 6 munud ac 16 eiliad
2. Chris Froome +1'25"
3. Tom Dumoulin +1'44"
4. Vincenzo Nibali +2'14"
5. Primoz Roglic +2'23"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2018