Ansicrwydd Brexit yn arwain at golli 20 milfeddyg y mis

  • Cyhoeddwyd
milfeddygon

Mae yna rybudd bod prinder difrifol o archwilwyr cig yn y DU yn peryglu masnach a lles anifeiliaid.

Mewn cyfweliad â BBC Cymru mae'r cwmni sy'n darparu milfeddygon swyddogol i'r Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA) wedi galw'r sefyllfa'n "argyfwng".

Maen nhw'n honni eu bod yn colli 20 milfeddyg y mis, gan feio'r ansicrwydd sy'n cael ei greu gan Brexit.

Yn ôl yr FSA mae'r asiantaeth yn "gweithio ar nifer o opsiynau" i sicrhau bod safonau yn cael eu cynnal.

Mae milfeddygon swyddogol yn archwilio safleoedd prosesu cig, yn dilysu mewnforion ac allforion ac yn gyfrifol am fesurau atal clefydau fel profion TB.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Christina Garcia Jose a Gabriel Cipres sy'n gweithio ym Mhontardulais yn poeni am eu dyfodol wedi Brexit

Daeth Christina Garcia Jose a Gabriel Cipres o Sbaen i weithio yn y DU chwe blynedd yn ôl ond maen nhw bellach yn pryderu am eu dyfodol yn y wlad ymysg "ansicrwydd" Brexit.

Gan siarad o'i brofiad ei hun, dywedodd Mr Cipres bod lladd-dai yn enwedig yn "ddibynnol" ar y milfeddygon o dramor sy'n gweithio yno.

Anos recriwtio milfeddygon

Mynnodd Jason Aldiss, rheolwr gyfarwyddwr Eville & Jones, sydd â'i bencadlys yn Leeds ac yn darparu milfeddygon swyddogol i bob lladd-dy yng Nghymru a Lloegr, ei fod yn ei chael hi'n anoddach bob dydd i recriwtio staff.

Mae'r cwmni'n cyflogi oddeutu 550 o filfeddygon, gyda 98% yn dod o dramor.

"Mae'n rhaglen recriwtio ni yn parhau ar garlam, ond dy'n ni'n methu cadw i fyny â nifer y staff milfeddygol sy'n gadael y wlad," meddai Mr Aldiss.

Disgrifiad o’r llun,

Mae prinder "difrifol" o archwilwyr cig ar hyn o bryd, meddai Jason Aldiss

"Mae Brexit wedi'n taro ni yn barod. Mae'n argyfwng - a'r cwmni wedi colli £2.5m yn barod oherwydd parlys yn y llywodraeth, diffyg arweiniad, a diffyg dealltwriaeth ynglŷn â goblygiadau'r hyn sy'n digwydd nawr."

Mae Mr Aldiss yn rhagweld y bydd angen 300 yn ychwanegol o filfeddygon swyddogol os yw'r DU yn gadael yr UE heb gytundeb, er mwyn delio a'r gwaith papur ychwanegol fydd ynghlwm ag allforio cig.

Risg sylweddol

Mae'n bwnc sydd eisoes wedi'i grybwyll mewn adroddiad gan Lywodraeth Cymru sy'n ystyried yr effaith posib ar y sector bwyd ac amaeth os nad oes cytundeb â'r UE.

Mae'n rhybuddio y gallai'r sefyllfa arwain at ganoli lladd-dai, gyda cholli safleoedd yng Nghymru yn peri "risg sylweddol" i'r diwydiant cig oen oherwydd y costau fyddai'n codi o orfod cludo anifeiliaid ymhellach.

Un ateb yw i weinidogion gynnwys milfeddygon ar restr 'swyddi ble mae prinder' y DU, fyddai yn gosod llai o gyfyngiadau ar eu recriwtio nhw o dramor, yn ôl Mr Aldiss.

Ond mae'n dweud er iddo godi'r peth ar sawl achlysur gyda gweinidogion dyw e heb weld "fawr o weithredu".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd llefarydd ar ran yr FSA: "Mae effaith gadael yr UE ar y gweithlu milfeddygol yn rhywbeth yr y'm ni yn ei ystyried fel rhan o'n golwg ehangach ni ar drefniadau archwilio ac aswiriant ar ôl i Brydain adael yr UE."

Ychwanegodd llefarydd ar ran yr Adran Materion Gwledig yn San Steffan eu bod wedi cynnal y niferoedd o filfeddygon sydd ynghlwm â darganfod a rheoli clefydau sy'n golygu eu bod "yn barod iawn i ddelio a chlefydau mewn anifeiliaid".

"Ry'n ni eisiau sicrhau bod Llywodraeth y DU a busnesau milfeddygol â nifer digonol o filfeddygol, archwilwyr cig, gweithwyr lladd-dai a chludwyr stoc unwaith ein bod ni'n gadael yr UE."