Geraint Thomas yn cadw ei afael ar y crys melyn
- Cyhoeddwyd
Ar ôl cymal 13 o'r Tour de France mae'r Cymro Geraint Thomas yn parhau i wisgo'r crys melyn.
Enillydd cymal 13 oedd Peter Sagan o Slofacia, gan orffen y cymal gymharol wastad ac 169.5 cilomedr o hyd, ar y blaen i Alexander Kristoff ac Arnaud Demare.
Ar ddiwedd y cystadlu ddydd Gwener roedd Thomas o Dîm Sky yn parhau i arwain y ras gydag amser o 53 awr 10 munud a 38 eiliad.
Mae ei gyd-aelod o dîm Sky, Chris Froome yn ail, 1 munud a 39 eiliad ar ei ôl, gyda Tom Dumoulin o'r Iseldiroedd yn drydydd, 1 munud a 50 eiliad ar ei ôl.
Mae'r bwlch rhwng Froome a Thomas yn parhau'r un fath ag yr oedd ar ddiwedd buddugoliaeth y Cymro yng nghymal 12.
Primož Roglic o Slofacia sydd yn bedwerydd (+2 mun. 46 eiliad) a Romain Bardet o Ffrainc yn bumed (+3mun. 07 eiliad).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2018