Pedwerydd diwrnod Geraint Thomas yn y crys melyn

  • Cyhoeddwyd
Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Le Tour de France/Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Mae Geraint Thomas 1'39" o flaen Chris Froome ar hyn o bryd, gyda mynyddoedd y Pyrenees eto i ddod

Mae'r seiclwr o Gymru, Geraint Thomas, wedi dal ei afael ar y crys melyn ar ôl cymal heriol o'r Tour de France brynhawn Sadwrn.

Fe groesodd y Cymro 18 munud wedi'r Sbaenwr Omar Fraile, a enillodd y 14eg cymal oedd heddiw'n mynd o Saint-Paul-Trois-Chateaux i Mende.

Ond mae Thomas yn parhau i arwain y ras gyda mantais o funud a 39 eiliad dros ei gyd-aelod o dîm Sky, Chris Froome.

Ddydd Sul bydd cymal 15 yn mynd a'r timau ar hyd 181.5km o daith rhwng Millau a Carcassonne.

Bydd y ras yn gorffen ym Mharis wythnos i dydd Sul.