Pumed diwrnod o wisgo'r crys melyn i Geraint Thomas
- Cyhoeddwyd

Mae Geraint Thomas yn parhau i wisgo'r crys melyn, er iddo orffen cymal 15 o'r Tour de France gyda'r peloton
Mae Geraint Thomas wedi dal ei afael ar y crys melyn yn y Tour de France am y pumed diwrnod yn olynol.
Er iddo groesi'r llinell derfyn gyda'r peloton, mae Thomas yn parhau ar y blaen.
Manus Cort o Ddenmarc oedd yn fuddugol yng nghymal 15 o'r ras yn Carcassonne.
Bydd diwrnod o seibiant ddydd Llun cyn cymal nesaf y ras ddydd Mawrth.