Rhybudd am y tywydd cyn i Antiques Roadshow ddod i Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Fiona Bruce
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Fiona Bruce yn cyflwyno rhaglen 'The Antiques Roadshow' ym Mhlas Erddig, Wrecsam

Mae cynhyrchwyr un o raglenni hynaf BBC One yn rhybuddio pobl am beryglon y tywydd poeth wrth iddyn nhw baratoi i ffilmio yn Wrecsam.

Dydd Iau, fe fydd rhaglen The Antiques Roadshow yn ymweld â Phlas Erddig.

Wrth i'r rhagolygon awgrymu bydd y tymheredd yn uchel, mae criw'r rhaglen wedi rhyddhau gwybodaeth ynglŷn â threfniadau'r diwrnod ar hyn ddylai pobl ddod gyda nhw.

Gallai "ciwiau fod yn hir", meddai'r trefnwyr, wrth i bobl ddod a'u creiriau gyda nhw i ddangos i'r holl arbenigwyr fydd yn bresennol.

Maen nhw wedi gofyn i bobl:

  • Ddod â rhywbeth i eistedd arno;

  • Dod â het ac eli haul/ymbarél;

  • Dod â bwyd a diod;

  • Gofyn i stiward am gymorth os oes angen cymorth gyda pherson bregus.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Plas Erddig yn blasty sy'n dyddio'n ôl i ddiwedd yr 17eg ganrif, ac mae'r ystad bellach dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Fe fydd parcio cyhoeddus mewn caeau gerllaw a llefydd hefyd i yrwyr gyda bathodyn glas.

Mae Plas Erddig yn blasty sy'n dyddio'n ôl i ddiwedd y 17eg ganrif, ac mae'r ystad bellach dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Bydd y drysau yn agor am 09:00 fore Iau ac yn cau am 17:00, gyda mynediad am ddim.

Dywedodd cynhyrchydd y gyfres, Robert Murphy: "Rydym yn edrych ymlaen at groesawu miloedd o ymwelwyr i Erddig.

"Mae'n adeilad hyfryd, llawn cymeriad ac rydym yn edrych ymlaen at glywed straeon gan bobl o Gymru a thu hwnt."