Cyhoeddi rhestr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Albwm y flwyddyn

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi rhestr fer ar gyfer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn.

Yn eu plith mae Gwyneth Glyn, Band Pres Llareggub, Serol Serol, Yr Eira a Gai Toms.

Bydd Blodau Gwylltion, Bob Delyn a'r Ebillion, Mellt, Y Cledrau a Mr Phormula hefyd yn cystadlu am y wobr.

Fe fydd yr enillydd yn cael ei ddewis gan reithgor o unigolion o'r diwydiant cerddoriaeth, gyda'r enillydd yn derbyn tlws wedi'i gomisiynu'r arbennig gan Ann Catrin Evans.

Y deg albwm ar y rhestr fer:

  • Band Pres Llareggub - Llareggub

  • Blodau Gwylltion - Llifo fel Oed

  • Bob Delyn a'r Ebillion - Dal i 'Redig Dipyn Bach

  • Gai Toms - Gwalia

  • Gwyneth Glyn - Tro

  • Mellt - Mae'n Hawdd Pan ti'n Ifanc

  • Mr Phormula - Llais

  • Serol Serol

  • Y Cledrau - Peiriant Ateb

  • Yr Eira - Toddi

Disgrifiad o’r llun,

Bendith ennillodd gwobr Albwm y Flwyddyn yn 2017

Dyma'r pumed tro i'r wobr gael ei chyflwyno, a'r cyn-enillwyr yw Bendith, Sŵnami, Gwenno a The Gentle Good.

Cyhoeddir enw'r enillydd mewn seremoni yn yr Eisteddfod ar ddydd Iau 9 Awst.