Un ar goll wedi tân difrifol mewn gwesty yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cafodd 12 o griwiau eu galw i'r digwyddiad ar y prom

Mae un person ar goll yn dilyn tân difrifol mewn gwesty yn Aberystwyth dros nos.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod naw oedolyn a thri o blant wedi eu hachub o'r digwyddiad yng ngwesty Tŷ Belgrave, Glan y Môr.

Yn ôl prif swyddog cynorthwyol y gwasanaeth, Roger Thomas, y gred yw fod y person sydd ar goll yn "un o westeion y gwesty".

Cafodd 12 o griwiau eu galw i'r digwyddiad, wnaeth ddechrau am tua 02:20 fore Mercher, ond mae adroddiadau ei fod bellach dan reolaeth.

Difrod sylweddol

Mae'n ymddangos bod difrod difrifol wedi ei achosi i'r gwesty, a bod to'r adeilad wedi ei ddinistrio'n llwyr.

Dywedodd y gwasanaeth tân bod pump o bobl wedi eu hanfon i'r ysbyty rhag ofn, dau ohonynt yn blant, a bod pobl wedi eu symud o adeiladau cyfagos hefyd.

Ffynhonnell y llun, Twitter/@MAWWChrisDavies

Ychwanegodd Mr Thomas: "Mae'r tân wedi lledu o'r llawr gwaelod fyny at y to.

"Mae'r lloriau mewnol i gyd wedi dymchwel, felly ar hyn o bryd dydyn methu cael mynediad i'r adeilad er mwyn cadarnhau os oes unrhyw un yno neu ar goll.

"Ein dealltwriaeth yw ei fod yn un o westeion y gwesty.

Ychwanegodd mai "ond ychydig o wybodaeth sydd wedi'i ryddhau o'r ysbyty ynglŷn â chyflwr y cleifion".

Nid yw achos y tân wedi ei gadarnhau eto, ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n gofyn i bobl leol gadw drysau a ffenestri ynghau.

Mae Cyngor Ceredigion hefyd wedi cau nifer o ffyrdd yn yr ardal wrth i'r digwyddiad barhau.

Ffynhonnell y llun, Keith Morris

Ar y Post Cyntaf, dywedodd y ffotograffydd Keith Morris: "Dwi'n edrych ar luniau o'r awyr o Dŷ Belgrave a'r tŷ ar gornel Stryd Terrace... does dim byd i'w weld, does dim to ar ôl ar y tai yma.

"Mae 'na 'chydig o lechi ar ôl ar ben gogleddol Gwesty'r Belle Vue, ond mae'r tai jyst yn sgerbydau erbyn hyn."

'Chwalu'n gyfan gwbl'

Dywedodd Perchennog Gwesty Richmond yn Aberystwyth, Richard Griffiths bod criwiau'n dal i chwistrellu dŵr "i grombil y gwesty", a'i bod yn edrych fel bod y tân wedi ei "chwalu'n gyfan gwbl" ac effeithio'r adeiladau i bob ochr.

Ychwanegodd bod sawl gwesty arall yn yr ardal yn cynnig cymorth i'r bobl sydd wedi gorfod symud, a bod y "gymuned yn tynnu at ei gilydd".

Ffynhonnell y llun, @NEWTOWNFIRESTN
Disgrifiad o’r llun,

Y difrod ar yr adeilad erbyn bore ddydd Mercher

Mewn datganiad, diolchodd perchennog y gwesty, Emyr Tudfor Davies i'r gwasanaethau brys am eu hymateb i'r "digwyddiad ofnadwy".

Ychwanegodd y byddai'n cysylltu gyda gwestai i "sicrhau bod unrhyw broblemau'n cael eu datrys", ac yn rhyddhau mwy o wybodaeth pan fyddai'n briodol.

'Siom anferth'

Yn ôl Chris Jones oedd yn gweithio dros nos yn y Premier Inn yn Aberystwyth, does "dim llawer ar ôl" o'r gwesty.

"Mae'n edrych fel bod y fflamau allan nawr. Mae lot o fwg."

Ffynhonnell y llun, Twitter @conradscab

Mae Mererid Jones yn byw ar y prom a dywedodd: "Fi'n byw ar y prom, glywes i lot o sŵn tua 03:00, a meddwl i ddechrau mai pobl wedi meddwi oedd 'na.

"Es i draw yn syth, doedd pethe ddim yn edrych yn ofnadwy i ddechrau. 'Wedodd y perchennog wrtha i bod y grisiau wedi llosgi... ond erbyn 04:30 daeth pelen o dân, gan ledaenu i westy cyfagos a thŷ preifat yr ochr draw.

"Roedd cryn bryder am nad oedd y gwasanaethau brys yn gallu cyrraedd dwy stafell. Mae'n siom anferth ac yn sioc."