Galw am welliannau i ffordd ger ysgolion yn Rhuthun

  • Cyhoeddwyd
Ysgolion Rhuthun
Disgrifiad o’r llun,

Mae safle ysgolion Pen Barras a Stryd y Rhos ger stad Glasdir ar gyrion Rhuthun

Mae rhieni'n galw am welliannau i'r ffordd ger campws newydd ysgolion cynradd yn Rhuthun.

Agorodd safle newydd £11m ysgolion Pen Barras a Stryd y Rhos ym mis Ebrill.

Mae'n cael ei ffinio ar un ochr gan ffordd liniaru brysur Rhuthun, sy'n arwain at y dref ac unedau diwydiannol.

Yn ôl rhai'n lleol, dylai fod cyfyngiad o 20mya ar y ffordd honno pan fo'r ysgol ar fin agor neu gau, ac mae galw hefyd am welliannau i groesfannau.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts o gabinet Cyngor Sir Ddinbych ei fod yn cytuno â'r syniadau ac y bydd y cyngor yn "ymgynghori" gyda rhieni i wireddu'r gwelliannau.

Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Llŷr Emanuel ydy y bydd gwelliannau i'r groesfan sy'n cysylltu dwy ran y llwybr beicio ger y ffordd

Daw'r galwadau hyn yn dilyn trafodaeth ar-lein am beryglon y ffordd. Mae BBC Cymru hefyd yn ymwybodol o wrthdrawiad diweddar rhwng plentyn a cherbyd yn yr ardal dan sylw.

Yn ôl Llŷr Emanuel, tad i dri o blant yn Ysgol Pen Barras, mae angen gwella'r groesfan sy'n cysylltu dwy ran y llwybr seiclo sy'n cydredeg â'r ffordd.

"Y peth mwyaf pwysig ydy cael croesfan saff, addas a safonol yn fan hyn er mwyn gallu cysylltu un ochr y llwybr beicio gyda'r ochr arall," meddai.

"Mae gyda ni ychydig o amser nawr i allu cadw pobl ar eu beiciau, fel bod pobl yn dod i arfer defnyddio'r beic neu gerdded i'r ysgol yn lle defnyddio'r car.

"Mae rhaid i ni achub ar y cyfle i wneud hynny nawr."

Gobaith eraill ydy newidiadau i'r cyfyngiad cyflymder 30mya ar y ffordd ger yr ysgolion.

"Mae hi'n lôn gyflym," meddai'r Cynghorydd Emrys Wynne.

"Er mai 30mya ydy hi i fod, mae 'na dueddiad i gynyddu'r cyflymder, ac yn aml iawn maen nhw'n mynd yn gynt na'r 30mya.

"Dyna pam dwi'n teimlo bod achos da dros leihau'r cyflymder ar adegau penodol o'r dydd - adeg agor yr ysgol yn y bore ac yn y prynhawn yr un fath."

Bwriad i ymgynghori

Un arall o'r cynghorwyr lleol, Huw Hilditch-Roberts, sy'n gyfrifol am addysg ar gabinet Cyngor Sir Ddinbych.

Dywedodd ei fod yn cytuno bod angen newidiadau i'r cyfyngiadau cyflymder a'r mannau croesi - a bod y cyngor nawr yn bwriadu ymgynghori am welliannau posib gyda rhieni.

Ond mae o hefyd yn amddiffyn y penderfyniad i beidio addasu'r ffordd ynghynt.

"Digon hawdd fyddai plotio'r mesurau yma cyn i'r ysgol agor, ond be' doedden ni ddim yn ymwybodol ohono fo oedd pa ffordd fyddai plant a rhieni yn trafeilio i'r ysgol," meddai.

"'San ni wedi gallu buddsoddi llawer o arian yn yr ardal, a bod pobl yn dod rhyw ffordd arall."

Dywedodd y bydd y cyngor yn trafod y mesurau gyda rhieni, ond doedd dim sicrwydd y byddai'r rheiny yn eu lle erbyn y flwyddyn ysgol nesaf.

"Mae'n dibynnu be' ydyn nhw [y mesurau]. Mae rhai allwn ni'u gwneud yn gynt na'i gilydd, a rhai yn cymryd hirach oherwydd bydd rhaid i ni gael buddsoddiad llywodraeth a grant."