Morgannwg yn colli yn y T20

  • Cyhoeddwyd
colin ingramFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Prif sgoriwr Morgannwg oedd Colin Ingram

Mae Morgannwg wedi colli eu gêm ddiweddara' yn y bencampwriaeth T20 yn erbyn Sir Gaerloyw yn Cheltenham.

Galw'n gywir ond dewis maesu wnaeth Morgannwg.

Llwyddodd y tîm cartref wedyn osod targed heriol gyda batiad o 197 am chwe wiced - y capten Michael Klinger oedd y seren gyda sgôr o 77 heb fod allan.

Wrth i Forgannwg ddechrau eu hymdrech nhw, roedd dechrau da gyda sylfaen gref gan Aneurin Donald a Michael Kawaja.

Ond unwaith i'r ddau yna a Colin Ingram golli eu wicedi, doedd fawr ddim gan y gweddill i gynnig.

Cyfanswm Morgannwg wedi 20 pelawd oedd 167 am naw wiced - buddugoliaeth i Sir Gaerloyw felly o 30 rhediad.