Gyrrwr yn yr ysbyty ar ôl i gerbyd droi drosodd ar yr M4

  • Cyhoeddwyd
M4Ffynhonnell y llun, Google

Mae dynes 44 oed yn yr ysbyty yn dilyn damwain "ddifrifol" ar yr M4.

Digwyddodd y ddamwain am tua 06:40 rhwng cyffordd 34-35, Misgyn a Phencoed, i gyfeiriad y dwyrain.

Roedd yr heddlu wedi cau rhannau o'r draffordd am bron i bum awr fore dydd Sul ar ôl i gerbyd droi drosodd.

Cafodd y ddynes a oedd yn gyrru'r cerbyd ei chludo i'r ysbyty gydag "anafiadau all beryglu bywyd".

Dywedodd yr heddlu fod yno dagfeydd o ganlyniad i'r ddamwain a dŵr ar y ffordd, ond bod y ffordd bellach ar agor.

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw sydd â gwybodaeth am y ddamwain i gysylltu gyda nhw ar 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod 1800285093.