ASau yn cwestiynu'r angen am Ysgrifennydd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae angen i Lywodraeth y DU ystyried o ddifrif a oes angen Ysgrifennydd Gwladol ar Gymru ar ôl Brexit, yn ôl Aelodau Seneddol.
Mae un o bwyllgorau Tŷ'r Cyffredin wedi galw ar Whitehall i edrych eto ar yr angen i gael gweinidogion ar wahân ar gyfer Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Yn ôl adroddiad gan y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Chyfansoddiadol, mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gofyn am drafodaeth ddwys am sut mae datganoli yn gweithio.
Mae hefyd yn dweud y byddai trafodaethau gwell gyda llywodraethau Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi osgoi'r dadlau a fu ynghylch un o ddeddfau pwysicaf Brexit.
Dywedodd Llywodraeth y DU ei bod yn parhau i gael "trafodaethau adeiladol" gyda'r llywodraethau datganoledig ar drefniadau ôl-Brexit.
'Testun gofid'
20 mlynedd wedi datganoli, mae'r pwyllgor yn dweud bod y llywodraeth yn dal i weithredu "ar sail strwythur a diwylliant nad yw'n rhoi fawr o ystyriaeth i realiti datganoli".
Mae'n galw ar Lywodraeth y DU i gyhoeddi Polisi Datganoli ar gyfer yr Undeb - ac y dylai "adolygiad systematig" gael ei gynnal o strwythur Whitehall a sut mae'n ymwneud â'r llywodraethau datganoledig yn y 12 mis sy'n dilyn Brexit.
"Dylai'r adolygiad yma hefyd ystyried a yw rôl y swyddfeydd tiriogaethol yn Whitehall a'r ysgrifenyddion gwladol cyfatebol dal yn angenrheidiol ac, os ydyn nhw, a ddylid eu diwygio er mwyn hyrwyddo cysylltiadau gwell ar draws Whitehall gyda'r llywodraethau datganoledig."
Mae dau gyn-Ysgrifennydd Cymru ymhlith aelodau'r pwyllgor - yr ASau Ceidwadol, David Jones a Cheryl Gillan.
Llynedd fe wnaeth llywodraethau Cymru a'r Alban gyhuddo San Steffan o ddefnyddio Brexit fel ffordd o "gipio grym" dros feysydd sydd wedi eu datganoli, ond ar hyn o bryd dan ddylanwad yr Undeb Ewropeaidd.
Wedi misoedd o drafod a dadlau ynglŷn â'r Ddeddf Ymadael a'r Undeb Ewropeaidd, penderfynodd Llywodraeth Cymru roi sêl bendith i'r ddeddf yn y pendraw, er i Lywodraeth Yr Alban ei gwrthod.
Roedd y diffyg ymgynghori gyda Chaerdydd a Chaeredin cyn i'r ddeddf gael ei chyhoeddi "yn destun gofid mawr", meddai'r adroddiad, a byddai gweithredu'n gynt wedi "osgoi llawer o'r drwgdeimlad".
Mae'r ASau hefyd yn rhybuddio bod pobl yn Lloegr mewn perygl o golli cysylltiad â'r system wleidyddol oni bai bod eu rhanbarthau'n cael eu cynrychioli yn deg.
'Dim llais i Loegr'
Yn ôl yr adroddiad, dylid ystyried datganoli mwy o bwerau a grymoedd i awdurdodau Seisnig a chreu mwy o faerau, yn ogystal â chaniatáu i ranbarthau Seisnig ymuno â phwyllgorau gweinidogol ar draws y DU.
Roedd cwynion bod gan y llywodraeth "arferiad i gadw gafael ar bŵer a gwrthsefyll datganoli" yn "thema gyson" yn ystod yr ymchwiliad.
Dywedodd prif was sifil Cymru, yr Ysgrifennydd Parhaol Shan Morgan, fod "diffyg tryloywder gan Lywodraeth y DU" wedi gwneud y berthynas rhwng Caerdydd a San Steffan yn "chwithig iawn ar adegau".
Yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor, Syr Bernard Jenkin, bydd "gadael yr Undeb Ewropeaidd yn newid trefniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, felly mae angen ail-feddwl".
"Rydyn ni'n argymell y dylai'r llywodraeth osod polisi datganoli clir ar gyfer y DU wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd," meddai.
"Bydd methiant i wneud hyn yn arwain at barhad o'r holl gamddealltwriaeth ac yn sail i lawer mwy o wrthdaro.
"Mae'r mecanwaith presennol er mwyn datblygu perthnasau rhyng-lywodraethol yn dila, a does dim byd yno i roi llais i rannau amrywiol o Loegr.
"Byddai anwybyddu hyn yn peryglu'r berthynas o fewn y DU at y dyfodol.
"Rydyn ni'n gosod llwybr ar gyfer cymodi ac adeiladu perthnasau cryf ar draws y DU fan hyn. Rydyn ni'n cydnabod bod nifer o rannau o Loegr â mwy yn gyffredin â rhannau o'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon na sydd gyda nhw â Llundain neu'r de-ddwyrain."
'Trafodaethau adeiladol'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Rydym wedi ymrwymo i sicrhau cytundeb sy'n gweithio ar gyfer y DU gyfan ac wedi bod yn hollol glir, pan fydd pwerau datganoledig yn dychwelyd o Frwsel, y bydd y rhan fwyaf yn mynd yn syth i'r llywodraethau datganoledig.
"Dros y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi canolbwyntio ar drafod yn adeiladol gyda'r sefydliadau datganoledig ac yn parhau i gael cyfarfodydd cyson gyda nhw, ar bob lefel, gan gynnwys y Cyd-Bwyllgor Gweinidogol a'r Fforymau Gweinidogol.
"Mae pob ochr wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda'n gilydd, gan gynnwys llunio fframweithiau cyffredin fel na fydd busnesau'r DU yn wynebu ochr y dibyn ar y diwrnod y byddwn ni'n gadael yr UE."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2018