Ymestyn cyllid UE yn 'lliniaru' risg ariannol i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon y gallai Cymru golli miliynau o bunnoedd petai'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb wedi cael eu lliniaru rhywfaint, yn ôl Swyddfa Archwilio Cymru (SAC).
Yn wreiddiol roedd y Trysorlys wedi addo parhau i dalu cyllidebau strwythurol o Ewrop i Gymru tan i Brexit ddigwydd ym mis Mawrth 2019.
Ond maen nhw bellach wedi ymestyn yr addewid yna hyd ddiwedd cyfnod cyllidol Ewrop yn 2020.
Dywedodd SAC y byddai'r trefniant gwreiddiol wedi peryglu rhai o'r cynlluniau oedd yn dibynnu ar yr arian.
Mae Cymru'n gymwys i dderbyn £2.1bn o gymorth o Ewrop i hybu perfformiad economaidd, isadeiledd fel ffyrdd ac ati, a sgiliau'r boblogaeth.
'Ansicrwydd amlwg'
Mae adroddiad SAC - Rheoli Effaith Brexit ar Gronfeydd Strwythurol yr UE - yn dweud y gallai Cymru fod wedi colli £21m am bob 1% o'r arian oedd heb ei addo cyn Brexit.
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, Anthony Barrett bod nifer o "fanylion eto i'w datrys", ond bod y "risg o Gymru'n colli cyllid o'r UE mewn Brexit heb gytundeb wedi cael ei liniaru gyda Llywodraeth y DU yn penderfynu'n ddiweddar i ymestyn eu gwarant".
Ond ychwanegodd Mr Barrett bod "ansicrwydd amlwg" dros gyllido'r dyfodol wrth i Brexit agosáu.
Mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru - a'r adran sy'n rheoli cyllid o'r UE, Swyddfa Cyllido Ewropeaidd Cymru (WEFO) - i ganolbwyntio ar faterion gan gynnwys sut i ddefnyddio arbenigedd WEFO mewn rhaglenni cyllido yn y dyfodol, neu mewn rhannau eraill o'r sector cyhoeddus.
Ychwanegodd SAC y gallai Cymru dderbyn £132m yn fwy o arian yr UE na'r disgwyl oherwydd cwymp yng ngwerth y bunt o gymharu â'r Ewro ers dechrau'r cyfnod cyllido.
Rhybuddiodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ym mis Rhagfyr y llynedd y byddai'n annerbyniol pe bai cymorth o'r UE yn cael ei gyfnewid am system sy'n cael ei redeg yn San Steffan ar ôl Brexit.
Mae gweinidogion y DU yn gweithio ar gronfa i'w rannu i gymryd lle arian o'r UE.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2018