Galw heddlu arfog i Heol Dŵr yng Nghaerfyrddin
- Cyhoeddwyd

Roedd presenoldeb yr heddlu yn amlwg ar Heol Dŵr yng Nghaerfyrddin
Cafodd 30 o dai eu gwagio yng Nghaerfyrddin nos Fercher wedi i heddlu arfog gael eu galw i adeilad yn Heol Dŵr yn y dref.
Cafodd nifer o strydoedd cyfagos eu cau ac roedd presenoldeb yr heddlu yn amlwg yn yr ardal.
Mae'n ymddangos bod rhyw fath o anghydfod rhwng yr heddlu a rhai o drigolion y stryd.
Cafodd y trigolion a gafodd eu symud o'u tai loches yng nghanolfan hamdden y dref.
Nid oes unrhyw adroddiad fod unrhyw un wedi cael niwed.
Daeth cadarnhad gan Heddlu Dyfed Powys am 21:20 eu bod wedi delio â'r mater mewn modd diogel, a bod y digwyddiad bellach drosodd.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.