Tân Aberystwyth: Cyhuddo dyn o gynnau tân yn fwriadol
- Cyhoeddwyd

Mae un dyn yn parhau i fod ar goll yn dilyn y tân yng ngwesty Tŷ Belgrave yn oriau mân 25 Gorffennaf
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhuddo dyn 30 oed yn dilyn tân difrifol yng ngwesty Tŷ Belgrave yn Aberystwyth.
Mae Damion Harris o Lanbadarn wedi cael ei gyhuddo o gynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd.
Ymddangosodd Mr Harris o flaen ynadon Aberystwyth brynhawn Iau a bydd bellach yn cael ei gadw yn y ddalfa tan ei ymddangosiad yn Llys y Goron Abertawe ar 24 Awst.
Mae un dyn yn parhau i fod ar goll yn dilyn y tân, a achosodd ddifrod sylweddol i Dŷ Belgrave ac adeiladau cyfagos hefyd.

Mae'r tân wedi achosi difrod sylweddoli i westy Tŷ Belgrave ac adeiladau cyfagos
Mae'r heddlu yn dal i geisio cysylltu gyda theulu a pherthnasau'r dyn sydd ar goll, ac mewn cysylltiad gyda Llysgenhadaeth Lithwania.
Cafodd 12 o bobl eu hachub wedi i'r tân gynnau yn y gwesty yn oriau mân 25 Gorffennaf.
Mae lloriau mewnol y gwesty wedi eu dinistrio'n llwyr ac mae hi'n dal i fod yn rhy beryglus i'r gwasanaeth tân a'r heddlu i fynd i mewn i'r adeilad i gynnal ymchwiliadau pellach.
Cyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi arestio unigolyn ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd ar 30 Gorffennaf.