Ymateb Llywodraeth Cymru i'r sychder 'yn drahaus'
- Cyhoeddwyd
Mae ymateb y llywodraeth i bryderon ffermwyr am y tywydd sych diweddar "braidd yn nawddoglyd a thrahaus" yn ôl Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru.
Cafodd cyfarfod ei gynnal yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ar 25 Gorffennaf i drafod yr heriau oedd yn wynebu amaethwyr, dan gadeiryddiaeth yr Ysgrifennydd dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Disgrifiodd yr undebau'r cyfarfod fel un positif, ond maen nhw bellach wedi mynegi eu siom â chynnwys datganiad diweddara'r llywodraeth, dolen allanol, a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher.
Wrth ymateb i'r feirniadaeth, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n parhau i gydweithio â'r undebau.
'Diffyg ewyllys'
Ar raglen Taro'r Post ar BBC Radio Cymru ddydd Iau, dywedodd Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru: "Gawson ni gyfarfod yn y sioe, lle roedd yna gynrychiolaeth o'r diwydiant 'efo Llywodraeth Cymru.
"Ddois allan o'r cyfarfod yna gyda gobaith a teimlo'n reit bositif, ond rhaid i mi ddweud, dwi'n siomedig o beth sydd wedi cael ei ddilyn i fyny o hynny.
"Dwi'n teimlo bod diffyg ewyllys i ddarganfod unrhyw atebion roedden ni wedi eu trin."
Mae datganiad Llywodraeth Cymru'n nodi mai 19mm o law ddisgynnodd yng Nghymru ym mis Mehefin, a bod y "diffyg dŵr a thir pori ar gyfer da byw ac effaith hynny ar dyfiant cnydau yn sefyllfa na welwyd ei thebyg o'r blaen".
 ymlaen i nodi bod "dyletswydd ar ffermwyr i ofalu am eu hanifeiliaid bob amser ac i arddel y safonau uchaf posibl o iechyd a lles ar gyfer da byw".
Dywed y datganiad fod yr ysgrifennydd amaeth yn ystyried rhoi taliadau sylfaenol BPS ymlaen llaw eleni, ond ei bod yn ymwybodol o bosib "na fydd y taliadau yn cyrraedd y ffermwyr hynny y mae'r tywydd wedi effeithio arnynt waethaf".
Mae hefyd yn nodi fod rhai rheolau glastir eisoes wedi eu llacio, ac y "bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda deiliaid contractau ac i asesu ceisiadau i lacio'r rheolau fesul achos".
'Braidd yn nawddoglyd'
Ond dydy cynnwys y datganiad ddim yn mynd yn taro'r nodyn cywir gyda'r undebau.
"Maen nhw wedi son bod ganddon ni "duty of care" i'r anifeiliaid," meddai Mr Roberts
"Dwi'n teimlo eu bod nhw braidd yn nawddoglyd a braidd yn drahaus."
"Dy' nhw ddim yn sylweddoli mai er mwyn edrych ar ôl ein hanifieliaid 'dan ni'n gwneud hyn, 'lly?"
Dywedodd Dafydd Jarrett, Swyddog Polisi gydag undeb yr NFU wrth y rhaglen: "Be' aru ni ofyn - roedd o'n rhesymol ac yn bosib i Lywodraeth Cymru i'w wneud.
"Mae o fewn rheolau Ewrop, er enghraifft, i roi cymorth i bobl sydd eisiau dod â phorthiant i fewn, a thalu am y costau o wneud hynny.
"Mae'n bosib dod â'r taliad sengl yn ei blaen i ganol mis Hydref - rhaid i chi gofio bod pob ffermwr sy'n cael taliad sengl, mae o'n talu rhwng 1-2% o'r taliad hynny at argyfwng - ac os nad ydy hyn yn argyfwng, dwi'm yn siwr [beth sydd]...
"Dwi ddim yn meddwl eu bod nhw'n llawn sylweddoli rhai o'r problemau sydd allan yn fa'na, a bod modd iddyn nhw wneud rhywbeth am y peth."
'Cydnabod anawsterau'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod yn llawn yr anawsterau sylweddol y mae ffermwyr wedi eu hwynebu yr haf hwn, gyda chyfnod hir o dywydd sych iawn yn dilyn gaeaf gwlyb a stormus iawn.
"Roedd uwchgynhadledd yr wythnos diwethaf yn gyfle defnyddiol inni edrych ar yr hyn y gall y llywodraeth a'r diwydiant ei wneud gyda'n gilydd i liniaru rhai o'r problemau sy'n deillio o'r amodau tywydd presennol.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda'r diwydiant, partneriaid a'r undebau ar y mater hwn yn y tymor byr, canolig a hir."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2018