BBC i ddangos gemau rygbi Uwch Gynghrair Principality

  • Cyhoeddwyd
Kyle Evans o MerthyrFfynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Merthyr sydd wedi ennill Uwch Gynghrair Principality yn y ddau dymor diwethaf

Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n dangos gemau rygbi Uwch Gynghrair Principality yn fyw y tymor yma.

Bydd gemau'r brif adran yng Nghymru yn cael eu darlledu yn y slot nos Wener, a hynny wedi i Premier Sports gymryd yr hawliau i ddangos y Pro14 o 2018/19 ymlaen.

Glyn Ebwy yn erbyn Aberafan fydd y gêm gyntaf i gael ei dangos, a hynny ar 7 Medi, gyda rhaglen Scrum V hefyd yn parhau i gael ei darlledu ar nosweithiau Sul.

Dywedodd pennaeth chwaraeon BBC Cymru, Geoff Williams: "Mae rygbi ar nos Wener ar y BBC wedi bod yn rhan annatod o'r arlwy chwaraeon yng Nghymru ers sawl blwyddyn, a bydd gwylwyr rygbi o gartref yn falch iawn o weld ei fod yn parhau."