S4C yn parhau i drafod hawliau darlledu'r Pro14
- Cyhoeddwyd
Mae S4C wedi cadarnhau eu bod mewn trafodaethau i barhau i ddangos gemau rygbi'r Pro14.
Yn gynharach eleni fel wnaeth sianel Premier Sports sicrhau'r hawliau i'r gystadleuaeth o dymor 2018/19 ymlaen.
Fe wnaeth eu cais nhw drechu un ar y cyd gan y BBC ac S4C, sydd ar hyn o bryd yn darlledu rhai o gemau'r gystadleuaeth ar deledu am ddim.
Ddydd Llun fe gyhoeddodd Premier Sports y byddai eu cytundeb newydd tair blynedd yn golygu bod 152 o gemau y tymor yn cael eu darlledu'n fyw ar y teledu.
'Mwy o refeniw'
Yn ogystal â dangos pob un o gemau'r Pro14 yn fyw ar Premier Sports, bydd 21 o gemau hefyd yn cael eu dangos am ddim ar sianel FreeSports.
"Diolch i gytundebau darlledu diweddar ar draws tiriogaethau'r Pro14 yn y DU, Gweriniaeth Iwerddon, yr Eidal a De Affrica, mae'r gystadleuaeth wedi gallu dyblu'r refeniw maen nhw'n ei ddychwelyd i glybiau," meddai llefarydd ar ran y Pro14.
"Rydyn ni'n credu y bydd hyn yn cadw'r talentau gorau yn chwarae yn eu gwledydd cartref tra'n galluogi clybiau i recriwtio chwaraewyr rhyngwladol o safon uchel o dramor.
"Mae hawliau darlledu am ddim yn rhan hanfodol o'n pecyn darlledu yn y DU ac rydym wedi dechrau trafodaethau gyda rhwydweithiau rhanbarthol y BBC ynglŷn â dangos uchafbwyntiau."
Dywedodd prif weithredwr Pro Rugby Wales - y corff sy'n cynrychioli pedair rhanbarth Cymru - fod y cytundeb newydd yn "taro cydbwysedd" rhwng darlledu gemau ar sianeli lloeren a sianeli am ddim.
"Ar yr un pryd bydd y cynnydd sylweddol mewn refeniw o ganlyniad i'r broses dendro gystadleuol, drylwyr yn cyfrannu'n sylweddol tuag at amcanion y rhanbarthau o ddatblygu talent Gymreig a chadw chwaraewyr Cymreig yn ein system broffesiynol," meddai Mark Davies.
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru fod trafodaethau'n parhau ynglŷn â hawliau teledu yn y Gymraeg a hawliau darlledu radio ar gyfer y Pro14, a bod disgwyl cyhoeddiad yn fuan.