Caerfyrddin: Dyn a dynes wedi eu cadw yn y ddalfa

  • Cyhoeddwyd
Digwyddiad Caerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i dafarn y Blue Boar yn Heol Dŵr yn dilyn adroddiad o ddyn â dryll brynhawn Mercher

Mae dyn a dynes o Gaerfyrddin wedi eu cadw yn y ddalfa gan ynadon yn Llanelli ar ôl i heddlu arfog gael eu galw i ddigwyddiad yn y dref nos Fercher.

Plediodd Hafod Jones, 24, yn ddieuog i fod â dryll ffug yn ei feddiant.

Fe wnaeth Mr Jones bledio'n ddieuog i gyhuddiad arall o affráe ar y cyd gyda Bernadette Thomas, 35 oed.

Gwrthododd Ms Thomas yr un cyhuddiad yn ogystal â cyhuddiad ar wahan o fygwth tyst (mewn digwyddiad arall).

Cafodd cais am fechnïaeth ei wrthod a bydd y ddau yn parhau yn y ddalfa tan eu gwrandawiad nesaf yn Llys y Goron Abertawe ar 3 Medi.