Dedfrydu heddwas am frathu dyn ar ei drwyn yn Abergwaun

  • Cyhoeddwyd
James MorgansFfynhonnell y llun, Western Telegraph
Disgrifiad o’r llun,

Doedd James Morgans ddim ar ddyletswydd pan ddigwyddodd yr ymosodiad

Mae heddwas wedi cael dedfryd o wyth mis wedi ei ohirio am frathu dyn ar ei drwyn gan achosi iddo waedu.

Digwyddodd yr ymosodiad yn nhafarn y Coach House, Abergwaun ym mis Ebrill 2017.

Yn ôl PC James Morgans, 47, roedd yn ceisio amddiffyn ei hun ond cafodd y rheithgor ef yn euog o achosi gwir niwed corfforol.

Dywedodd Huw Rogers o Wasanaeth Erlyn y Goron fod "cymdeithas yn disgwyl i swyddogion yr heddlu i fod â safon ymddygiad uchel".

Nid oedd Morgans yn gweithio pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

'Amheus o'r heddlu'

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Morgans wedi cael ei alw draw gan Scott McDonald, oedd yn 22 ar y pryd, er mwyn "tynnu coes".

Roedd y ddau yn nabod ei gilydd drwy gystadlaethau pŵl, ond pan gafodd Morgans ei alw draw am yr eildro, fe afaelodd yn Mr McDonald a'i frathu ar ei drwyn.

Yn ei ddatganiad, dywedodd Mr McDonald fod yr ymosodiad wedi ei wneud yn "amheus o'r heddlu", ac wedi "effeithio ei allu i gymdeithasu yn hyderus".

Mae lluniau camerâu cylch cyfyng yn dangos fod yr ymosodiad wedi parhau am tua 15 eiliad, cyn i Morgans gael ei dynnu yn ôl gan ffrindiau Mr McDonald.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd yr ymosodiad yn nhafarn The Old Coach House yn Abergwaun

Derbyniodd Mr McDonald driniaeth ar gyfer ei anafiadau yn Ysbyty Llwynhelyg.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Darren Davies: "Mae Heddlu Dyfed-Powys yn disgwyl y safon uchaf o ymddygiad gan ei swyddogion, a byddwn nawr yn ystyried pa gamau pellach dylai ei gymryd yn ôl y prosesau camymddwyn mewnol."

Yn ôl y bargyfreithiwr Paul Hobson, roedd Morgans yn "ddyn da" a wnaeth rhywbeth "cwbl allan o gymeriad".

Bydd Morgans yn gorfod cwblhau 180 awr o waith di-dâl, talu iawndal o £500 i'r dioddefwr, a chadw at orchymyn gwahardd am dair blynedd.