Sheffield United 1-2 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Yan Dhanda'n dathlu wedi sgorio ail gôl yr Elyrch
Fe darodd Abertawe'n ôl i sicrhau buddugoliaeth bwysig yng ngêm gynta'r tymor i'r clwb yn y Bencampwriaeth.
Roedd hi'n gêm ddi-sgôr tan yr ail hanner, pan aeth Sheffield United ar y blaen gyda gôl gan George Baldock.
Daeth Oli McBurnie a'r Elyrch yn ôl yn gyfartal o fewn 10 munud cyn i Yan Dhanda fynd â nhw ar y blaen a sicrhau'r fuddugoliaeth.
Hon oedd gêm gynta'r clwb dan reolaeth Graham Potter, a'r gêm gyntaf i Abertawe yn y Bencampwriaeth ers 2011, pan enillon nhw ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.