Sefydlu gwobr er cof am y llenor Tony Bianchi

  • Cyhoeddwyd
Tony Bianchi
Disgrifiad o’r llun,

Tony Bianchi enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau yn 2015

Mae teulu'r llenor Tony Bianchi wedi sefydlu gwobr er cof amdano i geisio annog rhagor o ysgrifennu straeon byrion yn y Gymraeg.

Bu farw Mr Bianchi yn 65 oed ym mis Gorffennaf 2017.

Bydd enillydd y gymynrodd yn derbyn gwobr ariannol o £200 yn ogystal â phrint wedi'i fframio o draeth Southerndown - hoff le'r llenor.

Mae'r print hefyd yn cynnwys cerdd o'r enw 'Er Cof am Tony Bianchi' gan Alan Llwyd, gafodd ei hysgrifennu'n arbennig ar gyfer y wobr.

Bydd y wobr yn cael ei rhoi am yr 20 mlynedd nesaf, a hynny am y stori fer orau.

Fe fydd y stori fuddugol hefyd yn cael ei chyhoeddi yng nghylchgrawn llyfrau Cymru, O'r Pedwar Gwynt.

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Tony Bianchi fis cyn Eisteddfod Genedlaethol y llynedd

Cafodd Tony Bianchi ei fagu yn North Shields yng ngogledd ddwyrain Lloegr ac fe ddysgodd y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Llambed, ble enillodd ddoethuriaeth am astudiaeth o waith Samuel Beckett.

Am flynyddoedd, bu'n gyfarwyddwr llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, cyn mynd ymlaen i weithio fel awdur, golygydd a chyfieithydd yng Nghaerdydd.

Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Sir Y Fflint a'r Cyffiniau 2007 am ei nofel Pryfeta, cyn mynd ymlaen i ennill y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn 2015 am ei nofel, Dwy Farwolaeth Endaf Rowlands.

'Annog ysgrifennu mentrus'

Roedd yn adnabyddus am ei straeon byrion hefyd, gan ennill cystadleuaeth Stori Fer Taliesin a BBC Radio Cymru yn 2013 am ei stori 'Twix'.

Dywedodd gwraig Tony Bianchi, Diana, mai gobaith y teulu yw y bydd y wobr yn "annog cyfoeth o ysgrifennu mentrus ac arloesol".

Bydd y wobr yn cael ei dyfarnu am y tro cyntaf yn Eisteddfod Sir Conwy y flwyddyn nesaf.