Teyrngedau i'r llenor 'mwyn a hawddgar' Tony Bianchi
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r llenor Tony Bianchi fu farw'n 65 mlwydd oed.
Cafodd ei fagu yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, cyn mynd ati i ddysgu'r Gymraeg ym Mhrifysgol Llambed.
Yn awdur saith nofel, bu'n gyfarwyddwr llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru am flynyddoedd.
Fe enillodd ddwy brif wobr rhyddiaith y Brifwyl - y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen. Aled Huw sy'n edrych 'nôl dros ei fywyd.