Un dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Mhontypridd

  • Cyhoeddwyd
car heddlu

Mae Heddlu De Cymru'n ymchwilio wedi i ddyn farw mewn gwrthdrawiad ym Mhontypridd nos Lun, 6 Awst.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi i gar Renault Megane glas daro yn erbyn car arall oedd wedi ei barcio yn Stryd Margaret, Trehopcyn am tua 22:20.

O ganlyniad i'r gwrthdrawiad, cafodd gyrrwr 27 oed y car Renault ei gludo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ond bu farw yno yn ddiweddarach.

Mae Heddlu'r De yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 1800298057.