Tân yn dinistrio 250 hectar o goetir yng Nghwm-carn

  • Cyhoeddwyd
Tan TwmbarlwmFfynhonnell y llun, Rhys Bennett
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd y tân yn Nhwmbarlwm ar 13 Gorffennaf

Mae tân diweddar wedi dinistrio blynyddoedd o waith a buddsoddiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn ôl datganiad gan y corff.

Cychwynnodd y tanau yn Nhwmbarlwm, Coedwig Cwm-carn ar 13 Gorffennaf, ac maent wedi dinistrio hyd at 250 hectar o goetir - yr un maint yn fras â 250 o gaeau rygbi.

Mae'r tan wedi arwain at niwed amgylcheddol "enfawr" ac wedi dinistrio degau o filoedd o goed a oedd newydd eu plannu.

Bydd CNC nawr yn parhau gyda'r gwaith o adfer y coetir ond yn nodi fod y tan wedi bod yn "gam enfawr yn ôl yn hanes coedwig Cwm-carn".

Erbyn hyn mae'r tân wedi'i ddiffodd, ond bydd y safle ar gau hyd nes y bydd yr holl lwybrau troed a'r llwybrau beicio wedi eu harchwilio.

'Niwed parhaol'

Roedd ardaloedd mawr yn cael eu hailblannu ar gyfer cynhyrchu pren, yn dilyn gwaith cwympo coed ar raddfa fawr i daclo lledaeniad y clefyd llarwydd.

Cafodd hofrenyddion, drôns, peiriannau cloddio a thractorau eu defnyddio fel rhan o'r gan CNC, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Heddlu Gwent.

Cwmcarn Forest Drive

Dywedodd Steve Morgan, Pennaeth Gweithrediadau De Ddwyrain Cymru yn CNC fod eu holl waith dros y ddwy flynedd ddiwethaf "wedi cael ei ddadwneud".

"Yn ôl pob tebyg, fe fyddai unrhyw fywyd gwyllt a oedd ar lwybr y tân wedi'i ladd ac fe fyddai eu cynefinoedd a'u ffynonellau bwyd wedi'u dinistrio. Fe allai poblogaethau rhai mathau o blanhigion ac anifeiliaid gymryd blynyddoedd i adfer.

"Diolch i ymdrechion diflino ein staff a'r asiantaethau eraill, mae'r tân bellach dan reolaeth, ond mae'r digwyddiad wedi achosi niwed amgylcheddol parhaol yn ogystal â chael effaith economaidd enfawr ar fusnesau'r ardal, twristiaeth a'r pwrs cyhoeddus."