Darganfod hen gar yng nghronfa ddŵr Llyn Brianne

  • Cyhoeddwyd
the car at the bottom of the slope

Mae tîm achub a gafodd ei alw i archwilio car yng nghronfa ddŵr Llyn Brianne wedi cadarnhau fod y cerbyd wedi bod yno ers cryn amser.

Cafodd Tîm Achub Mynydd Aberhonddu ei galw i archwilio'r car Ford Sierra gan Heddlu Dyfed Powys.

Defnyddiodd gwirfoddolwyr raffau i fynd at y car a'i archwilio nos Wener.

Mae'r tîm achub wedi trydar: "Mae'r cerbyd wedi bod yno ers rhai blynyddoedd ac (yn fwy pwysig) doedd neb ynddo".

Credir bod y car wedi dod i'r golwg o ganlyniad i'r tywydd sych diweddar.

Afon Tywi sy'n llifo i Lyn Brianne ac mae'r gronfa yn ymestyn dros siroedd Powys, Caerfyrddin a Cheredigion.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o’r llun,

Credir bod y car wedi dod i'r golwg o ganlyniad i'r tywydd sych diweddar