Teyrngedau i gyn-olygydd Y Cymro, Rob Jones

  • Cyhoeddwyd
rob jones

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r newyddiadurwr a chyn-olygydd Y Cymro, Rob Jones, fu farw yn 51 oed.

Roedd yn dad i ddau o blant ac yn dod o Fethesda yng Ngwynedd, ond bu farw mewn cartref nyrsio ym Mrynsiencyn ar ôl byw am gyfnod hir gyda pharlys ymledol a chlefyd siwgr.

Yn ôl uwch-olygydd ymgynghorol cyfredol Y Cymro, roedd yn "gymeriad cryf a hoffus" ac yn ohebydd "gwych".

Roedd hefyd yn un o aelodau gwreiddiol y grŵp Celt, ac fe wnaeth ei arddull "melodig" o chwarae'r gitâr bas gyfrannu'n helaeth at eu llwyddiant, yn ôl un o'i gyd-aelodau.

Ffynhonnell y llun, Cyfrif Twitter Paul Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Teyrnged gan Paul Griffiths - adolygydd theatr yn ystod cyfnod Rob Jones fel golygydd y Cymro

Cafodd Rob Jones ei benodi i olygu Y Cymro ar ddiwedd y 1990au wedi cyfnod yn gweithio i bapurau North Wales Chronicle.

Mewn neges ar gyfrif Twitter Y Cymro, dywedodd yr uwch-olygydd ymgynghorol, Barrie Jones: "Trist iawn clywed y newyddion heddiw am Rob Jones.

"Roedd yn gymeriad cryf a hoffus iawn ac yn olygydd a oedd yn gwybod yn union beth oedd am weld yn Y Cymro o wythnos i wythnos.

"Fues yn gweithio yn ei ymyl yn Y Wyddgrug ac yn ei gofio fel gohebydd gwych."

Ffynhonnell y llun, Martin Cropper
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cyfraniad Rob Jones (dde) yn allweddol i lwyddiant Celt, medd Barry 'Archie' Jones (chwith)

'Wastad yn sefyll allan'

Fe chwaraeodd Rob Jones gyda Celt o'r dyddiau cychwynnol ym 1987 tan ganol y 1990au, gan gyfrannu i ddau albwm cyntaf y grŵp.

Mae Barry 'Archie' Jones - gitarydd a chyfansoddwr y rhan fwyaf o ganeuon Celt - yn ei gofio fel "hogyn hawddgar, hoffus iawn".

"O ran ei wedd roedd o'n dod â rhyw edge pync i'r band - ryw edrychiad cŵl. Roedd o wastad yn sefyll allan.

"Roedd ganddo arddull melodig iawn ar y bas. Petaech chi'n tynnu pob offeryn arall ac yn gwrando dim ond ar y bas, fysa hi'n hollol amlwg pa gân oedd hi.

Ffynhonnell y llun, Paul Griffiths

"Roedd y bas yn rhan ganolog o'r cyfansoddiad. Fysan ni ddim wedi cael y llwyddiant gawson ni heb Rob."

Ychwanegodd: "Roedd mam Rob yn dod o Ffrainc. Roedd o'n siarad Ffrangeg yn rhugl, oedd yn fantais fawr wrth deithio yn Llydaw yn y nawdegau."

Bydd angladd Rob Jones yn cael ei chynnal yn amlosgfa Bangor ddydd Gwener.