Gorfod profi perthynas wrth deithio yn 'gwbl annerbyniol'

  • Cyhoeddwyd
Hywel Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae AS Arfon, Hywel Williams yn galw'r sefyllfa'n "gwbl annerbyniol"

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Hywel Williams wedi beirniadu cais gan y Swyddfa Gartref i rieni sydd â chyfenwau gwahanol i'w plant i ddod â thystysgrifau geni gyda nhw i'r maes awyr neu wynebu oedi.

Mae AS Arfon, Hywel Williams yn galw'r sefyllfa'n "gwbl annerbyniol", gan ychwanegu fod teuluoedd gyda chyfenwau gwahanol yn rhywbeth cyffredin yng Nghymru erbyn hyn.

Yn ôl y Swyddfa Gartref, fe gafodd y mesurau newydd eu cyflwyno oherwydd bod ganddyn nhw ddyletswydd i ddiogelu plant a'u gwarchod rhag cael eu masnachu neu eu hecsbloetio'n rhywiol.

Dywedodd Mr Williams: "Mae'n camwahaniaethu hyd y gwela i yn erbyn pobl sydd efo partneriaid sydd efo enwau gwahanol.

'Patrwm Cyffredin'

"Yn ein hachos ni, Mr Hywel Williams ydw'i a Dr Myfanwy Davies ydi'r wraig.

"'Dan ni'n briod efo plant felly mae'n camwahaniaethu yn ein herbyn ni a hefyd yn erbyn y patrwm sydd fwy cyffredin yng Nghymru dyddiau yma o gael plant efo enwau sydd yn wahanol i'w rhieni, dydi ein plant ni ddim yn Williams," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Swyddfa Gartref yn gofyn i rieni i gario tystysgrifau geni eu plant yn ogystal â phasport er mwyn osgoi oedi wrth deithio tramor

Un sydd wedi cael profiad personol o hyn yw Elinor Churchill o Fethesda.

Mae gan ei merch gyfenw gwahanol, sef enw canol ei thad.

Tra'n teithio adref o Sbaen, cafodd hi ei holi gan staff ffiniau maes awyr ynglŷn â'i merch - profiad a'i gwnaeth i deimlo'n annifyr iawn.

"O'n i'n teimlo'n eithaf anghyffyrddus," meddai, "doeddwn i ddim yn disgwyl cael fy nghwestiynu, roedd 'na lot o gwestiynau ynglŷn â phwy oedd y ferch fach, mi oedden ni'n siarad Cymraeg efo'n gilydd, roedd hi'n galw fi'n "Mam".

"Gesi ffrae gan y person. Roedd hi'n gofyn plentyn pwy ydi hi? Pam ei bod hi efo enw gwahanol? Roedd 'na gwestiynau personol iawn," meddai.

Mae Mr Williams yn credu bod yna ffyrdd haws o gadarnhau a yw plant yn gymwys i deithio na gorfod dangos dogfen fel tystysgrif geni: "Tydi bod efo cyfenw gwahanol ddim yn arwydd i mi fod rhywun yn debygol o fod wedi cael eu cipio.

"I ddweud y gwir mae'n batrwm sydd mor gyffredin y dyddia' yma, mi fysa swyddogion yn stopio pobl yn ddiddiwedd sydd yn ddi-briod a heb newid eu henwau.

"Mae hyn yn lol i ddweud y gwir, dydyn nhw ddim yn deall y diwylliannau gwahanol sydd 'na yng Nghymru ac ym Mhrydain."

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Y nod yw ceisio sicrhau bod y broses o gadarnhau cyfenwau yn digwydd mor gyflym â phosib.

"Mae gofyn i rieni ddod â dogfennau megis tystysgrifau geni gyda nhw i feysydd awyr yn helpu i hwyluso'r broses honno."