Ymdrechion i geisio lleihau problem sbwriel Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
gwylanod yn bwyta sbwriel
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwylanod yn aml yn pigo bagiau du yn ddarnau a gwasgaru sbwriel ar hyd y strydoedd

Mae yna gyfrifoldeb ar bobl Aberystwyth i sicrhau fod cynllun casglu sbwriel newydd yn llwyddiant, medd cynghorydd lleol.

Mae biniau cymunedol wedi eu gosod ar Rodfa'r Gogledd yn dref, fel rhan o gynllun peilot Cyngor Ceredigion i fynd i'r afael â phroblem sbwriel.

Roedd gweld annibendod ar hyd y strydoedd wedi dod yn olygfa gyffredin, wrth i wylanod ac anifeiliad eraill wasgaru sbwriel o fagiau du.

Bellach, mae'r cyngor sir wedi darparu biniau â chaead diogel i gadw'r gwastraff.

Problemau cychwynnol

Mae trigolion Aberystwyth wedi bod yn galw am ddatrysiad i'r sefyllfa ers misoedd lawer.

Ond roedd problemau cychwynnol i'r cynllun, wedi i gasglwyr sylwi bod bagiau gwastraff cyffredinol wedi eu rhoi yn y bin ailgylchu fore Mawrth.

O'r herwydd, doedd dim modd eu casglu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae biniau mawr cymunedol ar Rodfa'r Gogledd yn rhan o'r cynllun peilot sydd wedi cael ei lansio gan Cyngor Ceredigion

Wrth siarad am sefyllfa sbwriel y dref, dywedodd un cynghorydd lleol bod datrysiad hirdymor y broblem yn dibynnu ar lwyddiant y cynllun peilot, yn ogystal â chynlluniau eraill sydd ar y gweill gan Gyngor Ceredigion.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, yr Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol bod "sawl syniad" yn cael eu trafod.

"Bydd raid i ni edrych am ateb arall ar rai o'r strydoedd o achos eu bod yn gulach a does dim gymaint o le i roi'r biniau ag olwynion yma lawr.

"Mae'n dibynnu'n hollol ar beth ddysgwn ni ar y cynllun peilot yma," meddai, "ond y gobaith yw bod 'da ni ateb erbyn y tymor gwyliau nesaf."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ceredig Davies, cynghorydd tref a pherchennog siop lleol, yn awyddus i weld y cynllun yn cael ei ehangu i strydoedd eraill yn Aberystwyth

Ychwanegodd y cynghorydd tref a pherchennog siop, Ceredig Davies, ei fod yn awyddus i weld y biniau mawr yn cael eu cyflwyno ar hyd y dref.

"'Wy'n gobeithio bydd hwn yn llwyddiant, ac wedyn fyddwn ni'n gallu ymestyn e ar draws y dref i gyd."

Fodd bynnag, wedi'r dechrau ansicr wrth gasglu'r biniau, dywedodd fod cyfrifoldeb ar drigolion y dref i sicrhau fod biniau yn cael eu cadw yn y lle cywir.

"Mae problemau enfawr efo ni oherwydd mae poblogaeth mor fawr yn ganol dref, ac i fod yn deg i'r cyngor, mae 'na ddyletswydd ar unigolion yn y ffordd maen nhw'n rhoi sbwriel allan."