Diweithdra'n gostwng yng Nghymru ond twf araf mewn incwm

  • Cyhoeddwyd
diweithdra

Mae diweithdra wedi gostwng yng Nghymru, yn ôl y ffigyrau diweddaraf ar gyfer Ebrill i Fehefin eleni.

Disgynnodd y canran i 4.3%, sydd yn parhau i fod ychydig yn uwch na'r gyfradd diweithdra o 4% ar draws y DU.

Mae canran uwch nag erioed o bobl rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru - 74.2% - mewn gwaith bellach.

Ond mae'r canran hwnnw yn parhau i fod yn un o'r isaf ar draws y DU, gydag ond Gogledd Iwerddon ac ardaloedd yng ngogledd-ddwyrain Lloegr yn is.

Twf araf

Er bod mwy mewn gwaith, mae ymchwil i BBC Cymru gan felin drafod Sefydliad Resolution wedi canfod na chododd incymau cartrefi fawr ddim mewn termau real dros y degawd diwethaf.

Yng Nghymru, mae gan y cartref cyfartalog incwm o £20,900, sydd ond 1.1% yn uwch nag yr oedd 10 mlynedd yn ôl cyn y cwymp ariannol.

Mae'r twf wedi bod yn llawer cynt mewn ardaloedd eraill yn y DU, gyda dwyrain canolbarth Lloegr, a Sir Efrog ac ardal Humber, yn gweld twf o 8.9% dros yr un cyfnod.

Ar y llaw arall mae dwy ardal wedi gweld cwymp mewn incymau cartrefi - Llundain, a de-ddwyrain Lloegr.