Ymgyrch i geisio recriwtio mwy o reolwyr traffig awyr

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr CaerdyddFfynhonnell y llun, Geograph/MJ Richardson

Mae un o brif ddarparwyr gwasanaeth traffig awyr yn y DU yn ceisio recriwtio yng Nghymru, wrth i ddisgyblion ddisgwyl eu canlyniadau Safon Uwch ddydd Iau.

Mae National Air Traffic Services (NATS) am i fyfyrwyr ystyried gyrfa fel rheolwyr traffig awyr wrth iddyn nhw ddarogan twf aruthrol yn nifer yr hediadau dros y ddegawd nesaf.

Dywedodd NATS eu bod yn disgwyl y bydd 355miliwn o deithwyr yn hedfan i ac o'r DU, ar 3.1m o hediadau erbyn 2030.

Mae hynny'n 500,000 o hediadau ychwanegol y flwyddyn.

Yn ôl y rhagolygon, yr haf yma fydd y prysuraf erioed gydag 8,800 o hediadau ar draws y DU mewn un diwrnod yn y cyfnod brig.

Dywedodd Daryl Rowland, rheolwr cyffredinol Rheoli Traffig Awyr ym Maes Awyr Caerdydd: "Mae'n waith cyffrous iawn. Mae'n heriol, mae'n werth chweil, mae'n gyflym a does byth dau ddiwrnod yr un peth, ond mae ein hymchwil ni'n dangos mai dyna'r union fath o swydd y mae pobl ifanc yn dyheu."

Hyfforddiant anodd

Er nad yw'r cymwysterau addysgol mor uchel ag y mae rhai yn credu - pump TGAU sydd angen er mwyn bod yn gymwys ar gyfer hyfforddiant - roedd Mr Rowlands yn pwysleisio bod cymhwyso i dderbyn yr hyfforddiant yn anodd.

"Dim ond rhyw 1% o'r bobl sy'n gwneud cais i gael hyfforddiant sy'n llwyddo i gyrraedd y cwrs," meddai.

"Mae rhai yn methu efallai am nad ydyn nhw'n gallu meddwl mewn tri dimensiwn, neu eraill yn methu prosesu problem yn ddigon cyflym a meddwl am ateb yn erbyn y cloc.

"Mae nifer o resymau gwahanol, ond os ydych chi'n llwyddo mae'n swydd sy'n rhoi boddhad mawr."

Mae gan NATS tua 1,670 o reolwyr traffig awyr, a'u gwaith yw bod yn gyfrifol am symudiadau awyrennau drwy awyr y DU mewn 13 o feysydd awyr prysuraf yr ardal.