'Angen gwella diogelwch carafanau' wrth i fwy gael eu dwyn

  • Cyhoeddwyd
carafanau
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 900 o garafanau eu dwyn yng Nghymru a Lloegr y llynedd

Mae 'na alw ar wneuthurwyr carafanau i wella'u mesurau diogelwch am fod nifer cynyddol yn cael eu dwyn.

Yn ôl ffigyrau'r heddlu, cafodd dros 900 o garafanau eu dwyn yng Nghymru a Lloegr y llynedd - y nifer uchaf ers 10 mlynedd.

Mae swyddogion yn dweud bod y cynnydd wedi cael ei achosi gan gangiau sy'n eu dwyn o lefydd diogel ac o du allan i gartrefi pobl.

Mewn un achos yn Sir Benfro fore Mercher, llwyddodd Uned Plismona'r Ffyrdd ym mhorthladd Abergwaun i atal dyn rhag gyrru i ffwrdd gyda charafán oedd wedi cael ei dwyn yn yr Almaen.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y garafán hon, oedd wedi ei dwyn yn yr Almaen, ei rhwystro gan blismyn rhag croesi i Iwerddon fore Mercher

Roedd yna gynnydd o 7% yng ngwerthiant carafanau rhwng Mehefin 2017 a Mehefin 2018, gyda 22,000 o garafanau'n cael eu prynu.

Ond mae ffigyrau'n dangos bod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y carafanau sydd wedi cael eu dwyn yn y tair blynedd diwethaf.

Faint sy'n cael eu dwyn?

Ffigyrau diweddaraf heddluoedd Cymru a Lloegr:

  • 2015 - 603

  • 2016 - 809

  • 2017 - 964

Profiad Hefin Hughes

Roedd Hefin Hughes o Fachynlleth yn cadw'i garafan dan do adeilad ar fferm yng Nghwmystwyth dros y gaeaf, pan gafodd ei dwyn tua tair blynedd yn ôl.

"Es i â hi i'w rhoi yn un o'r adeiladau ar y fferm fis Tachwedd a'i pharcio hi yn y sied yn iawn," meddai.

"Roedd dwy garafán arall yna - rois i'r clo ar yr hitch a phopeth.

"Wedyn ar ddechrau Ionawr, ges i alwad gan fy ffrind ar y fferm yn gofyn a o'n i wedi bod i nôl y garafán.

"Doeddwn i ddim, wrth gwrs, ac mi ddwedodd o, 'Wel mae rhywun wedi bod i'w nôl hi'.

Disgrifiad o’r llun,

Dydy cloeon ddim yn atal pobl lleidr

"Roedden nhw wedi torri'r clo oddi ar yr hitch. Falle bod bai arna i nad o'n i wedi tynnu'r olwynion i ffwrdd.

"Ffonies i'r heddlu i reportio ei bod hi wedi mynd ar goll, ac aeth yr heddlu i siecio CCTV y prif ffyrdd, ond doedd dim byd i'w weld."

Ym marn Mr Hughes, roedd gan bwy bynnag aeth â'r garafán wybodaeth leol dda.

"Roedd hi'n globen o garafan - twin axle - rhaid bod pwy bynnag wnaeth hyn wedi mynd ar hyd heolydd cefn," meddai.

"Ro'n nhw'n gwybod beth oedden nhw'n wneud. Dwi'n meddwl eu bod nhw wedi bod yno o flaen llaw i weld beth oedd angen ei wneud."

Siom fawr

Unwaith y flwyddyn roedd teulu Mr Hughes yn defnyddio'r garafan, er mwyn mynd i'r Sioe Fawr yn Llanelwedd, ac roedd ei cholli'n siom fawr, a hynny ar adeg anodd iddyn nhw fel teulu.

"Roedd popeth yn digwydd yr un pryd," esboniodd. "Ro'n i newydd gymryd tenantiaeth fferm newydd, roedd fy merch, sydd â chyflwr meddygol, yn ôl ac ymlaen o Great Ormond Street, ac yna colli'r garafán - roedd hi'n adeg stressful iawn."

Chlywodd y teulu ddim am y garafán wedi hynny, ond maen nhw bellach wedi cael un newydd ac yn parhau i fynd i'r sioe.

Ond mae un peth yn wahanol: "Mae'r un sy' gyda ni 'ŵan yn gorfod cysgu allan o flaen y tŷ!"

Yn 2016, cafodd dyfais arbennig o'r enw Vin Chip ei gosod ym mhob carafán newydd, ac mae modd adnabod y cerbydau wedyn gyda sganiwr arbennig os ydyn nhw'n cael eu dwyn.

Mae disgwyl i'r un mesur diogelwch gael ei gyflwyno mewn cartrefi modur newydd o 2019 ymlaen.

Mae hefyd modd i berchnogion gofrestru eu cerbyd gyda chynllun gwirfoddol canolog sydd yn gallu cynorthwyo'r heddlu wrth iddyn nhw geisio dod o hyd i garafanau coll.