Cyhoeddi enw dyn fu farw wedi gwrthdrawiad ar yr A484
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A484 ger Caerfyrddin fore Sul.
Roedd Peter Morgan-Salmon yn 64 oed ac yn dod o Gydweli.
Cafodd yr heddlu eu galw toc wedi 06:00 i wrthdrawiad rhwng Volvo V50 llwyd a Toyota Avensis lliw arian.
Mae chwaer Mr Morgan-Salmon wedi rhoi teyrnged iddo, gan ddweud bod y teulu wedi eu "llorio" ar ôl colli dyn "hael a charedig".
Yn dilyn y digwyddiad, cafodd dyn 25 oed o Gaerfyrddin ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus a gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau - ond mae bellach wedi ei ryddhau tra bo'r ymchwiliad yn parhau.
Hoffai'r heddlu siarad dynes a oedd yn teithio yn y Volvo V50 yn oriau mân fore Sul, ac yn apelio ar y rhai sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst 2018