Geraint Thomas 'methu aros' i rasio yn y Tour of Britain

  • Cyhoeddwyd
Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Geraint Thomas yn dweud nad yw'n gallu aros i gystadlu yn y Tour of Britain fis Medi.

Ar ôl ennill y Tour de France, daeth cadarnhad y bydd Thomas yn cystadlu ochr yn ochr â'i gyd-seiclwr Chris Froome o Team Sky, a ddaeth yn ail iddo yn Ffrainc.

Daeth Tour of Britain 2017 i ben yng Nghaerdydd, a bydd y cymal cyntaf y ras eleni, ar ddydd Sul 2 Medi, yn dechrau ym Mharc Gwledig Pen-bre, Sir Gaerfyrddin ac yn gorffen yng Nghasnewydd.

Mae Thomas wedi cystadlu yn y Tour of Britain sawl gwaith yn y gorffennol.

Disgrifiad o’r llun,

Geraint Thomas yng nghanol dathliadau ei fuddugoliaeth yng Nghaerdydd

Y llynedd, yn ei ymddangosiad cyntaf ers 2011, gorffennodd yn yr 11eg safle.

Ar wahân i ambell i ras fechan, dydy Thomas ddim wedi cystadlu ers cipio crys melyn y Tour.

Mae'r ffaith bod Thomas a Froome yn cystadlu yn y Tour of Britain yn golygu fodd bynnag na fyddan nhw'n cymryd rhan yn y Vuelta a Espana eleni.

"Unwaith i fi gwblhau'r Tour, ro'n i'n gwybod fy mod i eisiau rasio yn y Tour of Britain a ffyrdd fy ngwlad," meddai'r gŵr o Gaerdydd.

"Mae'n dechrau yng Nghymru, fydd yn rhywbeth arbennig, ac yna bydda i'n cael rasio ar draws y DU. Alla i ddim aros."