Cadeirydd Sioe Llanrwst i groesawu cefnder o Batagonia
- Cyhoeddwyd
Wrth i Sioe Llanrwst baratoi i agor ei drysau, bydd cadeirydd y digwyddiad yn cael cyfle i groesawu teulu un o'i gefndryd pell o Batagonia.
Mae'r canwr Alejandro Jones wedi ymweld â Chymru sawl tro, ond dyma'r tro cyntaf i'w deulu wneud y daith o dde America wrth iddyn nhw ddychwelyd i fro eu cyn-deidiau.
Â'i wreiddiau o Ddyffryn Conwy, bydd Mr Jones yn perfformio caneuon Sbaeneg a Chymraeg fel rhan o ddathliadau Sioe Llanrwst ddydd Sadwrn.
Mae ganddo gysylltiad agos â'r Sioe hefyd gan fod y cadeirydd, Huw Clwyd Jones yn gaifn neu'n drydydd cefnder iddo.
Fe adawodd hen daid a hen ewythr Alejandro Jones am Batagonia yn gynnar yn yr 20fed ganrif, a bydd y Sioe dros y penwythnos yn gyfle i'w deulu ymgysylltu eto a'u cefndryd yng Nghymru.
Dywedodd Mr Clwyd Jones: "Mae'n eironig eleni, wrth i mi barhau â'm rôl fel Cadeirydd Sioe Llanrwst, bod fy nhrydydd cefnder, Alejandro Jones, yn dod i Gymru gyda'i deulu am y tro cyntaf.
"Rydyn ni'n edrych ymlaen yn arw at ei groesawu i'r Sioe a'i glywed yn canu gyda'i gitâr yr hen ffefrynnau Cymraeg a'i alawon gwreiddiol De America, ar ddiwedd y prynhawn."
Ychwanegodd: "Gobeithio am ddiwrnod i'r brenin, beth bynnag fo'r tywydd, wrth i ni estyn croeso cynnes i bawb ymuno yn yr hwyl ym mhrydferthwch Dyffryn Conwy."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2018